facebook-pixel

Harira Cig Oen Cymru

  • Amser paratoi 15 mun
  • Amser coginio 1 awr
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 450g Cig Oen Cymru PGI, wedi’i dorri’n giwbiau mân
  • Olew olewydd
  • 1 winwnsyn mawr, wedi’i dorri
  • 2 ewin garlleg wedi’u torri’n fân
  • 1 llwy de tyrmerig mâl
  • ½ llwy de sinamon mâl
  • ½ llwy de sinsir mâl
  • 1 llwy de paprica mwg
  • Pupur a halen
  • 1l stoc cyw iâr
  • Tun 400g tomatos wedi’u torri
  • 1 tun ffacbys, wedi’u draenio a’u rinsio
  • 2 lwy fwrdd purée tomato
  • 100g corbys
  • 50g vermicelli, wedi’u torri
  • 1 bwnsiad coriander, wedi’i dorri
  • 1 bwnsiad persli dail gwastad, wedi’i dorri
  • Iogwrt naturiol, i weini

Dull

  1. Cynheswch ychydig o olew mewn padell. Ychwanegwch y winwnsyn a’r garlleg, a’u ffrio’n ysgafn am 5 munud nes eu bod wedi meddalu.
  2. Ychwanegwch y ciwbiau cig oen, y sbeisys a’r sesnin, cymysgwch yn dda, a’u ffrio’n ysgafn am 5 munud.
  3. Ychwanegwch y vermicelli, y stoc cyw iâr, y tomatos tun, y corbys a’r purée tomato a dod â’r cyfan i’r berw, cyn mudferwi.
  4. Mudferwch, heb ei orchuddio, am tua 30 munud. Ychwanegwch y ffacbys a’u coginio am 15 munud arall. Gwiriwch i weld a yw’r corbys a’r cig oen yn barod. Dylai fod yn ansawdd cawl (gellir ei dewychu â blawd a dŵr neu ychwanegu mwy o stoc os yw’n rhy drwchus).
  5. Cymysgwch lwyaid o iogwrt a’r perlysiau i mewn cyn gweini.
Share This