facebook-pixel

Ffagots Cig Oen Cymru

  • Amser paratoi 20 mun
  • Amser coginio 40 mun
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • 400g o friwgig Cig Oen Cymru PGI heb lawer o fraster
  • 250g o friwgig porc heb lawer o fraster
  • 250g o afu Cig Oen Cymru PGI, wedi’i falu neu ei guro mewn prosesydd bwyd
  • 1 winwnsyn, wedi’i dorri’n fân
  • 170g o gymysgedd stwffin saets a winwns
  • Pupur du
  • ½ llwy de o fês mâl
  • ½ llwy de o saets mâl
  • Blawd i siapio
  • 1 winwnsyn, wedi’i dafellu
  • 1 llwy fwrdd o finegr balsamig
  • 50ml o ddŵr neu stoc llysiau

Dull

  1. Cynheswch y popty ymlaen llaw i 180°C / 160°C ffan / Nwy 4.
  2. Rhowch ychydig o olew mewn tun rhostio neu ddysgl dal gwres.
  3. Cymysgwch friwgig y cig oen, y porc, yr afu a’r winwnsyn ynghyd. Ychwanegwch y cynhwysion sych a’u cymysgu’n dda.
  4. Er mwyn sicrhau eich bod yn fodlon ar y blas, gellwch ffrio gwerth llwy de o’r cymysgedd mewn padell tan ei fod wedi’i goginio, gan ei flasu a’i addasu, os bydd angen.
  5. Gan ddefnyddio ychydig o flawd plaen i’ch helpu, siapiwch y cymysgedd yn beli gweddol fawr, gan greu tua 8-10.
  6. Rhowch y peli yn y tun a baratowyd a gwasgaru’r winwnsyn a dafellwyd. Cymysgwch y finegr balsamig yn y stoc a’i arllwys i’r tun.
  7. Coginiwch am 15-20 munud.
  8. Tynnwch y ffagots o’r popty a’u gorchuddio â ffoil, cyn eu rhoi yn ôl yn y popty am 20 munud arall.
  9. Yn flasus wedi’u gweini gyda thatws stwnsh hufennog, pys stwnsh a grefi winwns.
Share This