facebook-pixel

Empanadas Cig Oen Cymru gyda Saws Pupur a Dresin Mintys gan Bar44

  • Amser paratoi 2 awr
  • Amser coginio 5 awr 30 mun
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

Empanada

  • 8 brwyniaid hallt (bydd jar 100g yn ddelfrydol)
  • Llond llaw o ddail rhosmari
  • Llond llaw o ddail teim
  • Coesyn mintys (wedi’i gadw o’r dresin, gweler isod)
  • 4 ewin garlleg, wedi’u malu a’n torri’n fân
  • Croen 1 lemwn
  • 75ml o olew olewydd
  • 750ml sieri sych
  • 1 ysgwydd cig oen Cymreig, asgwrn i mewn
  • 3 ffyn seleri, wedi’u dorri’n fras
  • 4 moron wedi’u deisio’n fras
  • 1 winwnsyn, wedi’i dorri’n fras
  • 2 gennin, wedi’u dorri’n fras
  • 1 pen o garlleg, wedi’i dorri mewn hanner yn orweddol
  • 4 deilen llawryf
  • 1 llwy fwrdd piwri tomato
  • 500ml stoc cyw iâr
  • 2 wy, wedi’u guro
  • Crwst pwff wedi’i brynu yn y siop (prynwch ddigon ar gyfer pastai 25 x 32cm)

Saws Pupur Piquillo

  • 1 tin 500g pupur piquillo wedi’u rhostio, wedi’i ddraenio
  • 2 ewin garlleg, wedi’u sleisio
  • 40ml o olew olewydd crai ychwanegol
  • 1 llwy fwrdd o finegr sieri

Y dresin

  • 8 brwyniaid hallt (mae jar 100g yn ddelfrydol)
  • Llond llaw o bersli dail gwastad, dail wedi’u casglu
  • 12 dail mintys (coesyn wedi’i gadw ar gyfer y cig oen)
  • 1 ewin garlleg, wedi’i dorri’n fân
  • 100ml ychwanegol o olew olewydd crai
  • 30ml finegr sieri

Dull

Mae Empanadas, er ei fod yn arbenigedd Galisaidd, yn boblogaidd iawn ledled Sbaen. Mae’r fersiwn isod wedi’i llenwi ag ysgwydd cig oen Cymreig sydd wedi’i coginio yn araf. I arbed amser, fedrwch defnyddio toes ‘puff’ sydd wedi’i rholio yn barod ac fe gewch canlyniad gwych (prynwch digon i pastai 25 x 32cm) Mae’r cyfeiliant brwyniaid a mintys yn dod ag elfen hollol wahanol i’r empanada.

Y syniad gyda’r rysáit hwn yw ei wneud o’r newydd, ond fe allech chi hefyd ddefnyddio cig oen rhost dros ben o ginio dydd Sul.

 

Ar gyfer y llenwad cig oen:

  1. Cymysgwch yr brwyniaid, rhosmari, teim, coesyn mintys, garlleg, croen y lemwn, 75ml o’r sieri sych ac olew olewydd mewn prosesydd neu gymysgydd i ffurfio marinâd cig oen gwych.
  2. Tyllwch y cig oen ar ei hyd, yna rhwbiwch y marinâd i mewn gydag awch! Lapiwch y clingfilm a’i roi yn yr oergell dros nos, neu am o leiaf 2 awr.
  3. Cynheswch y popty ymlaen llaw i wyntyll 140◦C.
  4. Rhowch y seleri, moron, nionyn, cennin, garlleg a bae mewn tin rhostio. Ychwanegwch yr holl sieri sy’n weddill. Dadlapiwch y cig oen, ei roi ar ben y llysiau, yna gorchuddio’n dynn â ffoil.
  5. Rhowch y cig oen yn y popty am dair awr a hanner, yna tynnwch y ffoil a’i goginio am awr arall. Dylai fod yn toddi yn dyner ac yn disgyn oddi ar yr asgwrn ar ôl hyn. Tynnwch y cig oen o’r hambwrdd i orffwys ac oeri.
  6. Rhowch yr hambwrdd o lysiau a sudd ar yr hob. Trowch y gwres i ganolig uchel, dewch ag ef i’r berw a’i droi. Ychwanegwch y piwrî tomato, ei droi a’i goginio am 2 funud. Cynheswch y stoc cyw iâr mewn sosban fach, yna ychwanegwch at y llysiau. Wrth ei droi a’i leihau i hanner y saws, dylai gymryd tua 5 munud.
  7. Rhwygwch y cig oen a’i gyfuno â’r cymysgedd llysiau wedi’i leihau.

Empanada:

  1. Cynheswch y popty i 200C ffan / marc nwy 6.
  2. Rholiwch y toes i drwch 5mm neu ¼ modfedd. Leiniwch eich hambwrdd pobi ag ychydig o lard neu olew olewydd. Gosodwch y toes ar y gwaelod, gan orchuddio unrhyw ormodedd dros yr ochrau.
  3. Rhowch y cymysgedd cig oen ar y toes gwaelod a’i orchuddio’n gyfartal.
  4. Ail-wnewch y broses gyda hanner arall y toes a’i roi ar ei ben. Nawr crimpiwch yr ochrau gyda’i gilydd yr holl ffordd o gwmpas, gan selio’n dda.
  5. Brwsiwch frig ac ochrau’r crwst gyda’r wy wedi’i guro.
  6. Pobwch am 40-45 munud, nes ei fod yn lliw euraidd cyfoethog. Tynnwch yr empanada allan a’i adael i orffwys am ddeg munud cyn bwyta gyda’r saws piquillo a’r brwyniaid a’r mintys

Ar gyfer y saws piquillo:

Rhowch yr holl gynhwysion mewn cymysgydd a cymysgwch nes bod gennych chi biwrî/saws llyfn.

Ar gyfer y dresin brwyniaid:

Ar fwrdd torri, torrwch yr ansiofis, persli a mintys. Gallwch chi wneud hyn yn fras neu’n fân iawn, yn dibynnu ar gysondeb y dresin yr hoffech chi. Mewn powlen, ychwanegwch eich holl gynhwysion, cymysgwch yn dda, a gweinwch gyda’r empanada a’r saws piquillo.

Share This