
Cynhwysion
- 4 stecen Cig Eidion Cymru PGI, wedi’i sleisio yn denau
 - 75g o flawd plaen, wedi’i flasuso
 - 1 wy mawr, wedi’i guro
 - 75g o friwsion bara panko (neu gallwch wneud eich briwsion bara eich hun)
 - 25g o friwsion bara euraid
 - Olew ar gyfer ffrio bas
 
Ar gyfer y saws
- 1 llwy de o olew llysiau
 - 1 winwnsyn, wedi’i dorri’n fân
 - 2.5cm o wreiddyn sinsir ffres, wedi’i gratio
 - 2 ewin garlleg, wedi’u malu
 - 1 llwy fwrdd o bowdr cyrri cymedrol ei sbeis
 - 2 lwy fwrdd o flawd plaen
 - 250ml o stoc cyw iâr
 - 1 llwy fwrdd o saws soi
 - 1 llwy fwrdd o fêl
 
                 20
              
              
                Amser coginio
              
            
                15
              
              
                  Amser paratoi 
              
            
                4
              
              
                   Yn gweini
              
            - I wneud y saws: cynheswch yr olew mewn padell a ffrio'r winwnsyn am rai munudau tan y bydd yn meddalu ac yn dechrau newid ei liw. Ychwanegwch y garlleg a'r sinsir a'u coginio am rai munudau.
 - Ychwanegwch y powdr cyrri a'r blawd a'u cymysgu am funud. Yn araf, ychwanegwch y stoc, gan droi'r gymysgedd yn ddi-baid er mwyn osgoi lympiau.
 - Ychwanegwch y mêl a'r saws soi. Dewch â'r cymysgedd i'r berw a'i adael i fudferwi am 10 munud. Efallai y bydd angen i chi ychwanegu rhagor o ddŵr os bydd y cymysgedd yn eithaf trwchus. Os ydych am gael saws llyfn, defnyddiwch flendiwr.
 - Cymerwch y stêcs allan o’r oergell 20 munud cyn coginio.
 - Rhowch y blawd, yr wy a'r briwsion bara mewn tair powlen neu blât bas gwahanol.
 - Dipiwch y stêcs eidion yn y blawd, yna yn yr wy, ac yn olaf yn y briwsion bara, gan sicrhau eu bod wedi'u gorchuddio i gyd. I'w coginio, cynheswch yr olew ychydig mewn padell ffrio a choginio'r stêcs eidion ar wres isel-canolig – tua 4-5 munud ar bob ochr. Gorffwyswch am 5 munud cyn ei sleisio.
 - I'w coginio, cynheswch yr olew ychydig mewn padell ffrio a choginio'r stêcs eidion ar wres isel-canolig – tua 4-5 munud ar bob ochr. Gorffwyswch am 5 munud cyn ei sleisio.
 - Gweinwch y cig gyda reis gludiog a'r saws cyrri katsu blasus, ynghyd â salad crensiog neu golslo hyfryd.
 
