Mynd i'r cynnwys

Hwyl ar y fferm

Gyda'r plant bellach adref o'r ysgol yn ystod y cyfnod rhyfedd hwn, bydd eu diddanu tra’n parhau â'u haddysgu o yn aruthrol o bwysig. Beth bynnag yw eu hoedran, gall coginio gynnig cymaint i bob plentyn o sgiliau mewn mathemateg a darllen yn ogystal â sgiliau bywyd gwerthfawr. Mae gennym ystod eang o syniadau am ryseitiau i'w coginio gyda'ch plant er mwyn helpu i gynyddu eu hyder yn y gegin a'u cael i fwynhau Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru Ac ar ôl iddyn nhw orffen coginio, rhannwch eu campwaith gyda ni trwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol! Pan nad ydyn nhw yn y gegin mae gennym ni hefyd nifer o weithgareddau hwyliog ar eu cyfer, pob un yn canolbwyntio ar ddysgu am ffermio yng Nghymru ac o ble mae ein bwyd yn tarddu. Cymerwch gip ar y dolenni isod lle rydyn ni wedi rhannu ein gweithgareddau i ddarparu ar gyfer plant 4-7 oed a phlant 8-11 oed fel y gall plant o bob oed fwynhau dysgu am fywyd ar fferm. O groeseiriau a chwileiriau i straeon addysgol, mae oriau o hwyl a dysgu i'w cael gyda'r ffermwr Siôn, ei gi defaid Meg a'u ffrindiau oll. Felly peidiwch ag oedi. Lawrlwythwch ac argraffwch rhai gweithgareddau hwyl i'ch plant eu mwynhau heddiw! Plant 4-7 – Gweithgaredd 1: Cyfri'r anifeiliaid Gweithgaredd 2: Cyfri'r anifeiliaid 2 Gweithgaredd 3: Lliwio i mewn Gweithgaredd 4: Lliwio i mewn 2 Gweithgaredd 5: Beth yw’r gwahaniaeth? Gweithgaredd 6: Llythrennau ar goll Gweithgaredd 7: O ble mae cig yn dod? Gweithgaredd 8: Chwilair Gweithgaredd 9: Tynnu llun Gweithgaredd 10: Mwgwd dafad Gweithgaredd 11: Drysfa Gweithgaredd 12: Drysfa 2 Gweithgaredd 13: Dot i ddot Gweithgaredd 14: Beth sy’n perthyn? Gweithgaredd 15: Tynnu llun o Meg y ci Gweithgaredd 16: Tynnu llun o'r bwyd Plant 8-11 - Gweithgaredd 1: Ble mae defaid a gwartheg yn byw? Gweithgaredd 2: Chwilair Gweithgaredd 3: Pa ddau sy’n union yr un fath? Gweithgaredd 4: Beth sy'n gwneud cig coch mor arbennig? Gweithgaredd 5: Beth mae'n olygu? Gweithgaredd 6: Sudoku a chwilair Gweithgaredd 7: Beth yw’r gwahaniaeth? Gweithgaredd 8: Stori - Blwyddyn ffarmwr Cymreig Gweithgaredd 9: Porc a bacwn! Gweithgaredd 10: Beth sy’n perthyn? Gweithgaredd 11: Torri a gludo Gweithgaredd 12: Amser am jôc! Gweithgaredd 13: Stori - Diet cytbwys Gweithgaredd 14: Lliwio i mewn Gweithgaredd 15: Lliwio i mewn 2

Mwy fel hyn


© Hybu Cig Cymru - Meat Promotion Wales 2025