Buches o wartheg gwydn yn mynd ag un ffermwr o ogledd Cymru yn ôl i’w wreiddiau

Ebr 29, 2021

Mae Wythnos Cig Eidion Prydain (23-30 Ebrill) yn dathlu ei 11eg flwyddyn, ac mae’r cyfnod hwn yn tynnu sylw at y gwaith mae ffermwyr Prydain yn ei wneud i gefnogi arferion cynhyrchu cynaliadwy, mae Hybu Cig Cymru (HCC) yn talu teyrnged i ffermwyr lleol Cymru am eu hymroddiad a’u hangerdd wrth helpu ffermio ym Mhrydain i ddod ymhlith y mwyaf cynaliadwy yn y byd.

Yn wahanol i rannau eraill o’r byd, ble mae adnoddau dŵr wedi lleihau neu ble defnyddir tir sylweddol i dyfu porthiant, mae defaid a gwartheg Cymru yn cael eu magu’n bennaf ar adnoddau naturiol – glaswellt a dŵr glaw. Gyda safonau uchel o hwsmonaeth anifeiliaid a rheoli tir pori, mae ffermydd teuluol yng Nghymru wedi helpu i ddiogelu’r dirwedd unigryw ers cenedlaethau, a byddan nhw’n parhau i wneud hynny am genedlaethau i ddod.

Er bod amaethyddiaeth yn gyfrifol am 10% o allyriadau yn y DU, mae hyn yn llai na’r sectorau trafnidiaeth a busnes. Dengys ymchwil fod technegau rheoli glaswelltir ffermwyr yng Nghymru yn helpu i wrthbwyso allyriadau carbon drwy ei gadw o dan y ddaear. Mae hwn yn gam cadarnhaol tuag at nod ffermio Prydain o fod yn garbon niwtral erbyn 2040.

Er bod y mwyafrif llethol (80%) o dir fferm Cymru yn anaddas ar gyfer tyfu cnydau, magu gwartheg a defaid yw’r ffordd fwyaf effeithlon o droi tir ymylol yn fwyd o ansawdd uchel. Hefyd, mae pori’r anifeiliaid ar laswellt a grug organig yn gwella bioamrywiaeth ac yn gwella iechyd a strwythur y pridd.

Un cwpl sy’n ffermio bîff a defaid a welodd y potensial i ddefnyddio ffordd fwy cynaliadwy o ffermio yw Iwan ac Eleanor Davies o Fferm Hafod y Maidd yng Nghonwy.

Yn 2014, gan fod gostyngiad posibl mewn incwm o gymorthdaliadau fferm ar y gorwel, aeth Iwan ac Eleanor ati i weld sut i ostwng costau eu fferm.

Aethon nhw ati i ddod o hyd i frîd o wartheg bîff a allai ymdopi â’r tywydd gwael a phori ar y glaswellt o ansawdd gwael oedd ganddyn nhw ar eu fferm ucheldirol.

Mae gan y fferm, sydd wedi’i chofrestru fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SODdGA) oherwydd bod ardal fawr ohoni’n destun cadwraeth statudol, y tir a’r amodau pori oedd yn ymddangos eu bod yn cyd-fynd â chynefin naturiol gwartheg Luing – brîd hynod o gadarn sy’n tarddu o Ynys Luing oddi ar arfordir gorllewinol yr Alban – dewis naturiol ac ateb posibl i’r fferm.

Ers cyflwyno’r brîd i’r fferm yn 2014, (Hafod y Maidd yw un o’r ffermydd cyntaf yng Nghymru i gadw’r brîd) mae’r Daviesiaid wedi sefydlu a chadw gyr caeedig o fuchod sugno, gan gynhyrchu cig eidion ar gyfer eu busnes arlwyo a gwerthu stoc i ffermydd eraill.

Maen nhw’n pesgi’r gwartheg yn eu hoedran pan fo’r glaswellt ar ei uchaf, yn lloia am ddwy flynedd ac yn rheoli’r corsydd mawn drwy bori’r gwartheg Luing arno. Mae’n system hynod effeithlon sy’n gweithio i’r fferm a’r amgylchedd.

Oherwydd ei flas melys a’i frithder naturiol, mae cig y Luing yn cael ei barchu’n fawr gan gogyddion â sêr Michelin.  Mae’r blas a’r gwead yn deillio o’r gwartheg sy’n pori ar rug mynydd a glaswellt naturiol heb ychwanegu dim – ni ddefnyddir gwrtaith na chemegau i wella’r glaswellt ac ni fwydir unrhyw ddwysfwydydd i’r gwartheg.  Mae’r Daviesiaid fwy neu lai wedi dychwelyd i systemau ffermio canrifoedd oed eu cyndadau.

Dywedodd Iwan, ffermwr pumed genhedlaeth, “Mae llwyddiant ein menter yn ganlyniad i beth, ble a sut rydym ni’n ei gynhyrchu. Mae dod o hyd i’r brîd cywir o wartheg sy’n addas i’n porfeydd amherffaith wedi golygu cyn lleied o ymyrraeth â phosibl, ac yn ein tro rydym ni wedi gallu dychwelyd i arferion ffermio canrifoedd oed sy’n gweithio gyda’n hamgylchedd unigryw ac nid yn ei erbyn. Rydym ni’n falch o gynhyrchu cig maethlon o ansawdd gan ddefnyddio arferion cynaliadwy – yn union fel y bwriadwyd gan natur.”

Mae penderfyniad y Daviesiaid i gaffael gwartheg Luing wedi talu ar ei ganfed ac erbyn hyn mae’r cwpl yn rhedeg busnes arlwyo symudol llwyddiannus, yn gwerthu byrgyrs moethus wedi’u coginio a stêcs cig eidion Luing mewn gwyliau bwyd amrywiol, priodasau a marchnadoedd ffermwyr. Maen nhw hefyd yn gwerthu eu cig eidion yn uniongyrchol o’r fferm ac yn danfon i gwsmeriaid tra hefyd yn rheoli llety gwyliau 5 seren.

Er bod pandemig Covid wedi cael effaith andwyol ar lawer o fusnesau, mae’r Daviesiaid wedi profi i’r gwrthwyneb. Bu galw cynyddol am eu cig eidion – gyda’u cigydd yn aml yn gwerthu allan.

Mae gan y ffordd Gymreig o ffermio stori wahanol iawn i’w hadrodd o’i chymharu â rhai o’r systemau dwys a diwydiannol a geir mewn rhannau eraill o’r byd, gan sicrhau bod Cig Eidion Prydain yn parhau i fod ymhlith y mwyaf cynaliadwy yn y byd.

 

Share This