facebook-pixel

Stêc coes Cig Oen Cymru Thai gyda salad tomato a sinsir

  • Amser paratoi 20 mun
  • Amser coginio 15 mun
  • Ar gyfer 2

Bydd angen

  • 2 stêc coes Cig Oen Cymru PGI
  • 2 llwy de past Thai gwyrdd
  • 1 ewin garlleg, wedi’i dorri’n fân
  • ½ llwy de sinsir wedi’i gratio
  • 1 tsili gwyrdd, wedi tynnu’r hadau a’i dorri’n fân
  • 2.5cm sinsir ffres, wedi’i blicio a’i dorri’n fân
  • Talp bychan o fenyn
  • 1 llwy de olew olewydd
  • Pupur du
  • 75g tomatos ceirios wedi eu haneru

Gwybodaeth am faeth

  • Ynni: 1816 KJ
  • Calorïau: 435 kcals
  • Braster: 25.9 g
  • Sy’n dirlenwi: 10.7 g
  • Halen: 0.84 g
  • Haearn: 4.9 mg

Dull

  1. Rhowch y stêcs oen mewn dysgl fas. Ychwanegwch y past Thai gwyrdd, y sinsir wedi’i gratio a’r garlleg.
  2. Cymysgwch a’i rwbio dros ddwy ochr y stêcs. Gorchuddiwch nhw a’u gadael nes eu bod yn barod i’w coginio.
  3. Paratowch y salad – torrwch y tsili a’r sinsir yn fân neu eu malu mewn pestl a mortar, nes eu bod yn llyfn. Ychwanegwch yr olew a’r pupur du, a’u cymysgu â’i gilydd.
  4. Ychwanegwch y tomatos, eu cymysgu a’u gadael i sefyll yn nhymheredd yr ystafell nes bo’r stêcs yn barod.
  5. Twymwch blât gridyll neu gril o flaen llaw a choginio’r stêcs am ryw 4-6 munud bob ochr yn dibynnu ar drwch y stêc.
  6. Wedi iddyn nhw goginio, rhowch nhw ar blat, ychwanegwch fymryn o fenyn ar ben pob stêc a gadael iddyn nhw sefyll am 3-5 munud.
  7. Gweinwch y stêcs gyda suddion y menyn a’r salad sinsir a thomato.
Share This