facebook-pixel

Coes Cig Oen Cymru gyfan gyda rhosmari a gellyg mewn seidr gellyg

  • Amser paratoi 15 mun
  • Amser coginio 1 awr 50 mun
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • 1 goes Cig Oen Cymru PGI, sydd tua 1.5kg
  • 4 taten maint canolig, wedi’u pilio a’u sleisio
  • 1 winwnsyn mawr, wedi’i sleisio
  • 1 sbrigyn mawr o rosmari ffres, wedi’i dorri
  • Halen a phupur du
  • 2 ellygen, wedi’u sleisio
  • 300ml o seidr gellyg
  • 150ml o stoc cig oen

Gwybodaeth am faeth

  • Ynni: 2559 KJ
  • Calorïau: 613 kcals
  • Braster: 31 g
  • Sy’n dirlenwi: 13.4 g
  • Halen: 1.3 g
  • Haearn: 4.5 mg

Dull

  1. Cynheswch y popty ymlaen llaw i 180°C / 160°C ffan / Nwy 4.
  2. Mewn powlen rhowch y sleisys o datws, winwnsyn, rhosmari a halen a phupur, gan gymysgu’r cyfan.
  3. Rhowch y cynhwysion ar waelod padell neu ddysgl rostio fawr (ac sy’n ddigon mawr i’r goes gyfan). Ychwanegwch y sleisys o ellyg a’u rhoi rhwng y tatws.
  4. Pwyswch y goes a chyfrifwch yr amser coginio: wedi’i rostio’n weddol – 25 munud am bob 450g/500g a 25 munud ychwanegol, wedi’i rostio’n dda – 30 munud am bob 450g/500g a 30 munud ychwanegol.
  5. Rhowch y goes ar ben y tatws, arllwyswch y seidr drosti a rhowch y stoc yn y ddysgl.
  6. Gorchuddiwch â ffoil a choginiwch am hanner yr amser gyda’r ffoil a gweddill yr amser heb y ffoil.
  7. Gweinwch gyda llysiau tymhorol wedi’u stemio.
Share This