facebook-pixel

Chasseur Stêc Cig Eidion Cymru

  • Amser paratoi 15 mun
  • Amser coginio 15 mun
  • Ar gyfer 2

Bydd angen

  • 2 stêc syrlwyn Cig Eidion Cymru PGI (gallwch ddefnyddio stêcs eraill)
  • 1 llwy fwrdd olew
  • Talp o fenyn
  • Sesnin

Ar gyfer y saws:

  • 1 llwy fwrdd olew
  • 25g menyn
  • 6 madarchen ganolig
  • 1 winwnsyn, wedi’i dorri’n fân
  • 1 llwy fwrdd blawd plaen
  • 1 gwydraid gwin coch
  • 2 lwy fwrdd brandi
  • 200ml stoc cig eidion cyfoethog
  • 3 tomato, wedi’u torri
  • 1 llwy de purée tomato
  • Joch o saws Worcestershire
  • Sesnin
  • Llond llaw o bersli wedi’i dorri

Dull

  1. Tynnwch y stêcs o’r oergell 30 munud cyn eu coginio.
  2. Gwnewch y saws – rhowch yr olew a’r menyn mewn padell, yna ychwanegwch y winwnsyn a’r madarch a’u ffrio’n ysgafn am 5 munud nes eu bod wedi meddalu.
  3. Ychwanegwch y blawd a’i gymysgu’n dda am 2 funud, ychwanegwch y gwin a’r brandi’n raddol a dod â’r cyfan i’r berw.
  4. Ychwanegwch y stoc, y tomatos wedi’u torri, y purée, y sesnin a’r saws Worcestershire. Dewch â’r cyfan i’r berw a’i fudferwi am 5 munud nes bod y saws yn sgleiniog braf ac wedi tewychu. Ychwanegwch y persli wedi’i dorri.
  5. Tra bod y saws yn mudferwi, coginiwch y stêcs.
  6. Cynheswch y badell nes ei bod yn boeth, ac ychwanegwch yr olew. Sesnwch y stêcs a’u rhoi yn y badell boeth.
  7. Coginiwch ar wres uchel am ychydig funudau (at eich dant).
  8. Trowch y stêcs ac ychwanegwch y menyn. Brasterwch y stêcs tra’n coginio gyda’r menyn wedi toddi a’r olew.
  9. Coginiwch am 2 funud bob ochr ar gyfer gwaedlyd-canolig (4 munud ar gyfer canolig a 6 munud i’w coginio’n dda).
  10. Gadewch y stêcs i orffwys am 5 munud.
  11. Gweinwch y stêcs gyda’r saws Chasseur ar ei phen ac ysgeintiwch ychydig o bersli wedi’i dorri drosti.
Share This