Hyblyg a blasus – mae Cig Oen Cymru PGI yn wych i bobl sy’n dwlu ar fwyd
Cogydd proffesiynol, connoisseur cegin cartref – neu wrth eich bodd yn bwyta’n dda? Mae Cig Oen Cymru PGI yn gynhwysyn gwych ar gyfer pob math o ryseitiau – o rai anturus a heriol, i rai syml a chyflym.
Mae Cig Oen Cymru yn arbennig. Mae’n ffrwyth llafur cyfrinachau cenedlaethau o hwsmonaeth, a, gellir dadlau, amodau magu cig oen gorau’r byd. Ac ydych chi’n gwybod beth mae hyn yn ei olygu? Blasau anhygoel a gwead eithriadol.
Mae Cig Oen Cymru yn ffefryn ymhlith cogyddion oherwydd ei hyblygrwydd, ac mae’n addas ar gyfer amrywiaeth eang o fwydydd a dulliau coginio. Mae’n cynnig cymaint o amrywiaeth o ran prydau ochr a pharu gwin.
Ond peidiwch â chymryd ein gair ni. Dewch i gwrdd â’n Cig-genhadon a hyrwyddwyr eraill Cig Oen Cymru – ac wrth gwrs – ceisiwch goginio gydag ychydig ohono eich hun!
Dewch â chadair at fwrdd y cogydd.
Prydau tanbaid syml.
Cyngor bwyta iach gydol oes.
Yr amgylchedd. Y ffeithiau.
Mae Cig Oen Cymru yn arbennig. Mae’n ffrwyth llafur cyfrinachau cenedlaethau o hwsmonaeth, a, gellir dadlau, amodau magu cig oen gorau’r byd. Ac ydych chi’n gwybod beth mae hyn yn ei olygu? Blasau anhygoel a gwead eithriadol.
Mae Cig Oen Cymru yn ffefryn ymhlith cogyddion oherwydd ei hyblygrwydd, ac mae’n addas ar gyfer amrywiaeth eang o fwydydd a dulliau coginio. Mae’n cynnig cymaint o amrywiaeth o ran prydau ochr a pharu gwin.
Ond peidiwch â chymryd ein gair ni. Dewch i gwrdd â’n Cig-genhadon a hyrwyddwyr eraill Cig Oen Cymru – ac wrth gwrs – ceisiwch goginio gydag ychydig ohono eich hun!
Darganfyddwch flasau newydd…
Cymerwch gip ar rai o’n hoff ryseitiau Cig Oen Cymru fan hyn. O brydau rhost traddodiadol i ddanteithion hyfryd at gyfer parti swper – mae rhywbeth at ddant pawb.
![](https://eatwelshlambandwelshbeef.com/wp-content/uploads/2020/08/Welsh-lamb-rocket-and-parmesan-risotto-3-400x400.jpg)
Risotto Cig Oen Cymru, berwr y dŵr a parmesan
![](https://eatwelshlambandwelshbeef.com/wp-content/uploads/2020/06/Balsamic-glazed-welsh-lamb-with-rosemary-potatoes-1-400x400.jpg)
Cig Oen Cymru â sglein balsamaidd gyda thatws rhosmari
![](https://eatwelshlambandwelshbeef.com/wp-content/uploads/2020/09/Roast-leg-of-Welsh-lamb-with-gin-and-rosemary-1-400x400.jpg)
Coes rhost Cig Oen Cymru gyda jin a llugaeron
![](https://eatwelshlambandwelshbeef.com/wp-content/uploads/2020/06/Crunch-welsh-lamb-lollipops-1-400x400.jpg)
Lolipops Cig Oen Cymru crensiog
![](https://eatwelshlambandwelshbeef.com/wp-content/uploads/2021/07/Home-Health@2x-400x400.png)
Cig Oen Cymru tanllyd y ddraig wedi’i dro-ffrio
![](https://eatwelshlambandwelshbeef.com/wp-content/uploads/2020/06/pulled-welsh-lamb-shoulder-400x400.jpg)
Ysgwydd o Gig Oen Cymru wedi’i thynnu ac iddi grwst perlysiau
![](https://eatwelshlambandwelshbeef.com/wp-content/uploads/2020/06/Moroccan-spiced-shepherds-pie-1-400x400.jpg)
Pastai’r bugail â sbeis Morocaidd
![](https://eatwelshlambandwelshbeef.com/wp-content/uploads/2020/07/Leg-of-Welsh-lamb-with-coconut-chilli-and-coriander_with-sauce-400x400.jpg)
Coes Cig Oen Cymru gyda chnau coco, tsili a choriander
![](https://eatwelshlambandwelshbeef.com/wp-content/uploads/2020/08/Welsh-lamb-cutlets-with-herb-and-garlic-sauce-1-400x400.jpg)
Cytledi Cig Oen Cymru gyda saws garlleg a pherlysiau
![](https://eatwelshlambandwelshbeef.com/wp-content/uploads/2020/06/Rack-of-lamb-with-herby-mustard-crumb-1-400x400.jpg)
Rag Cig Oen Cymru gyda chrwst mwstard a pherlysiau
Angen rhagor o ysbrydoliaeth?
Gwyliwch ein fideos rysáit bachog fan hyn. Maen nhw’n hawdd eu dilyn ac yn dangos i chi pa mor hyblyg yw Cig Oen Cymru.
Awyddus i ymuno â’n teulu?
Byddai’n wych gallu cadw mewn cysylltiad â chi. Ymunwch â’n teulu i dderbyn ryseitiau Cig Oen Cymru blasus gan rai o gogyddion gorau’r wlad, yn ogystal â chyfleoedd i gymryd rhan mewn cystadlaethau cyffrous sydd ond ar gael i aelodau Teulu Cig Oen Cymru.