Cyflwyno ein Cig-gennad 2020
Chris Roberts
Y flwyddyn hon, ein ‘Cig-gennad’ yw’r cogydd enwog Cymraeg, Chris Roberts. Yn ddiweddar, mae ei yrfa wedi bod ar dân gyda’r trydydd gyfres o ‘Bwyd Epic Chris’ ar fin cael ei ddarlledu ar S4C. Yn fwy na pharod i fynd yn erbyn y rheolau disgwyliedig yn y byd coginio, mae’r cogydd brwdfrydig yn gwneud enw i’w hun gyda’i dalent, gan ddefnyddio ei farbeciw steil Patagoniaidd i goginio Cig Oen Cymru blasus, gaiff ei weini gyda sawsiau a chymysgedd o berlysiau a sbeisiau ei hun. Ei annwyl dad, Colin, ysbrydolodd Chris wrth iddo sbarduno’i ddiddordeb mewn dulliau coginio De America wedi iddo’i ddysgu sut i ddefnyddio barbeciw haearn ‘asado’ i goginio cig, yn union fel y dysgodd ym Mhatagonia tra oedd yn aros yno gyda siaradwyr Cymraeg. Fel dywed Chris, “Coginio yw beth rwy’n caru ei wneud a gyda chynhwysyn gwych fel Cig Oen Cymru, all dim byd ei guro. Mae’n fraint i gael fy adnabod fel ‘Cig-gennad’ ac rwyf yn edrych ymlaen at arddangos Cig Oen Cymru.” Gyda thymor yr haf wedi cyrraedd cred Chris y dylai pobl ystyried o ddifrif defnyddio Cig Oen Cymru wrth fwynhau barbeciw, “Does dim llawer all guro Cig Oen Cymru gan fod ei flas yn adlewyrchu’r perlysiau arbennig, y planhigion a’r blodau maent yn ei fwyta ar fryniau Cymru.”