facebook-pixel

Buddion iechyd cig coch o Gymru

Ebr 23, 2019

Rydym yn gwybod bod llawer o brynwyr wrth eu boddau â blas cig coch Cymru, ond yn poeni nad yw’n ‘iach’. Wel, does dim angen poeni rhagor. Rydym wedi paratoi animeiddiad a ffeithlun er mwyn esbonio pam y gallwch barhau i fwynhau cig coch Cymru fel rhan graidd o ddiet cytbwys, a sut y gall eich helpu ar y llwybr at iechyd…

Yn gyntaf, mae’n bwysig cofio nad oes un bwyd yn cynnwys yr holl faetholion rydym eu hangen ar gyfer iechyd da, felly mae’n bwysig bwyta amrywiaeth eang o fwydydd bob dydd.

Yn ffodus, mae cig coch Cymru yn llawn fitaminau a mwynau hanfodol. Mae astudiaethau yn dangos fod y maetholion hanfodol yma’n helpu i wella ein hiechyd a’n lles. Er hyn, mae llawer o bobl (ar draws pob grŵp oedran) yn profi diffyg o ran y maetholion sydd eu hangen – mae siawns dda eich bod chi yn un o’r rhain.

Mae maetholion da pwerus cig coch yn cynnwys:

  • Fitamin A (ar gyfer iechyd y llygaid a’r croen)
  • Fitamin B (ar gyfer rhyddhau egni ac atal blinder)
  • Fitamin D (ar gyfer iechyd yr esgyrn a’r system imiwnedd)
  • Haearn (ar gyfer cludo ocsigen a swyddogaeth imiwnedd a gwybyddol)
  • Magnesiwm (ar gyfer swyddogaeth nerfau a’r cyhyrau)
  • Sinc (ar gyfer iechyd ewinedd, gwallt ac organau atgynhyrchiol)
  • Seleniwm (gwrthocsidydd pwerus)
  • Potasiwm (ar gyfer rheoli pwysau gwaed)

Os ydych yn hoffi cadw’n heini ac yn mwynhau ymarfer corf, mae cig coch yn rhoi’r maetholion angenrheidiol sydd yn helpu twf, cynhaliaeth ac adfer cyhyrau’r corff. Yn seiliedig ar ddiet cyfartalog y DU, mae 30% o’n protein yn barod yn dod o fwyta cig coch – felly daliwch ati!

Hefyd, mae nifer o bethau gallwch chi eu gwneud er mwyn pigo’r darnau o gig coch Cymru â’r lleiaf o fraster, a’i goginio mewn dulliau sydd yn osgoi gormod o fraster. Cofiwch:

  • Wrth brynu eich cig, edrychwch am ddarnau gyda llai o gynnwys braster a braster dirlawn
  • Gallwch dorri unrhyw fraster gormodol cyn coginio, a chael gwared ar unrhyw fraster ychwanegol all ymddangos yn ystod y broses o’i goginio
  • Dylech osgoi defnyddio gormod o olew neu fraster wrth goginio, ac mae grilio yn hytrach na ffrio eich cig yn galluogi i’r braster ychwanegol ddisgyn oddi ar y cig.

Ond faint yw gormod? Mae gwyddonwyr blaenllaw yn argymell i ni fwyta hyd at 500g o gig coch wedi ei goginio – neu pum pryd yr wythnos. Os nad oes gennych amser i bwyso popeth, gallwch ddefnyddio cledr eich llaw neu bac o gardiau er mwyn amcangyfrif un pryd, sydd yn tua 70-100g.

Ac yn bwysicach na dim, mae cig coch Cymru yn rhywbeth gwych – nid yn unig y mae’n blasu’n anhygoel, ond mae’r anifeiliaid mae’n dod ohonynt wedi cael gofal da gan ffermwyr Cymreig. Mae yma i bobl ei fwynhau ac i’w fwyta’r ffordd gywir fel rhan o ddiet iach a chytbwys.

Share This