facebook-pixel

Enillwch wledd gyda ein Cig-gennad

Awst 30, 2019

Yn dilyn ei lwyddiant diweddar yn rhyfeddu pobl yn sioe BBC Countryfile Live, mae ein Cig-gennad carismatig Chris Roberts wedi bod yn ei elfen unwaith eto mewn lleoliad ychydig yn fwy personol, ble bu’n coginio BBQ mawr o Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru ar ei farbeciw arddull asado Patagonia i enillwyr ein cystadleuaeth, David a Macinnie, yn eu cartref yn Cheltenham. Roedd yn ddiwrnod cofiadwy tu hwnt, ac ymddangosodd yr haul, hyd yn oed.

Hoffech chi iddo ddod i’ch gardd chi? Mae’n werth bod yn aelod o Deulu Cig Oen Cymru ac os ydych chi’n cofrestru ar gyfer ein cylchlythyr ni rhwng nawr a diwedd mis Tachwedd byddwch chi’n cystadlu’n ein cystadleuaeth nesaf ni a gallai Chris a’i asado ddod i’ch tŷ chi! Dwi’n siŵr eich bod chi’n cytuno bod hon yn wobr a hanner.

Cofrestrwch ar gyfer y cylchlythyr a rhoi cynnig ar ein cystadleuaeth ni fan hyn

Share This