facebook-pixel

Calan Oen Hapus!

Awst 1, 2019

Fel mae nifer o’n cefnogwyr ni’n gwybod erbyn hyn, 1 Awst yw Calan Oen, y diwrnod sy’n nodi dechrau’r tymor swyddogol ar gyfer y Cig Oen Cymru PGI gorau.

Mae’n hawdd anghofio bwyta’n dymhorol weithiau, ond dyma’r adeg o’r flwyddyn pan mae’r mwyaf o Gig Oen Cymru ar gael, felly dyma’r amser delfrydol i wledda ar ein cig oen gorau a mwyaf ffres.

Er mwyn rhoi’r cychwyn gorau i ddathliadau Calan Oen eleni rydyn ni wedi bod yn brysur yn creu cyfres newydd o fideos o ryseitiau blasus er mwyn eich ysbrydoli chi yn y gegin. Cofiwch eu gwylio nhw i gyd yn ystod y misoedd nesaf, ond yn y cyfamser dyma’r tair gyntaf i dynnu dŵr o’r dannedd…

 

  • Asennau Gludiog o Gig Oen Cymru
  • Golwythion Tandoori Cig Oen Cymru
  • Pizza Cig Oen Cymru a Phesto
Share This