facebook-pixel

Bioamrywiaeth: Sut mae’r Ffordd Gymreig o ffermio yn arwain y ffordd o ran creu ecosystemau iach ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

Mai 16, 2024

Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi datgan mai 22 Mai yw’r Diwrnod Rhyngwladol ar gyfer Amrywiaeth Fiolegol (IDB) er mwyn cynyddu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o faterion bioamrywiaeth. Wrth gwrs, Cymru yw un o’r lleoedd mwyaf cynaliadwy ar y ddaear i gynhyrchu cig coch, ac mae ffermwyr Cymru yn arwain y ffordd o ran cynyddu bioamrywiaeth ar eu tir, gan ffermio mewn cytgord â natur. Ond nid yw hyn yn rhywbeth newydd – mae ffermwyr Cymru wedi bod yn gwneud hynny am ganrifoedd.

Crynhodd Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, António Guterres bwysigrwydd bioamrywiaeth, gan ddweud,

“O’r aer rydyn ni’n ei anadlu a’r bwyd rydyn ni’n ei fwyta, i’r egni sy’n ein tanio a’r meddyginiaethau sy’n ein hiacháu, mae ein bywydau’n gwbl ddibynnol ar ecosystemau iach.”

Ac ni fedrwn gytuno mwy. O’r tir garw yn y gogledd i’r bryniau prydferth yn y de, bu ein ffermwyr Cymreig yn rhannu eu hanesion bioamrywiaeth gyda ni.

De Cymru

Ar gyrion prifddinas Cymru, yn uchel yn y bryniau, fe ddewch o hyd i fferm Garth Uchaf. Yma, mae ffermwyr y bedwaredd genhedlaeth – a brodyr – Ben ac Ethan Williams yn ffermio dros 700 erw o dir ac yn frwd dros wella bioamrywiaeth ar eu tir, gan barhau â’r gwaith a gychwynnodd eu taid dros 70 mlynedd yn ôl. Wrth siarad am waith ei gyndeidiau, dywedodd Ben,

“Gwnaeth fy nhaid waith ar y bryn yn y 1950au, a oedd yn gwella’r fioamrywiaeth yma yn fawr. Gall ymwelwyr â Bryn y Garth heddiw werthfawrogi byd natur ar ei orau – gydag adar a bywyd gwyllt yn ffynnu”.

Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae’r teulu wedi plannu dros 80,000 o goed ac wedi gosod milltiroedd ar filltiroedd o wrychoedd, gan ddarparu hafan i fywyd gwyllt. Gyda digon o orchudd coed ychwanegol, mae ganddyn nhw lawer o adar yn nythu ar y tir, o’r cudyllod coch ac ehedydd yr awyr i’r bwncath a’r gweilch i enwi dim ond rhai.

Ac wrth gwrs, mae da byw hefyd yn chwarae rhan allweddol mewn rheoli tir a bioamrywiaeth. Dywedodd Ben,

“Rydym yn rheoli ein glaswelltir yn ofalus gyda’n defaid sydd yn creu amodau tyfu delfrydol i ffyngau – mae gennym ni gapiau cwyr yn tyfu yma, sy’n eithaf prin. Mae’r defaid hefyd yn sicrhau na all un rhywogaeth o blanhigyn ddominyddu’r glaswelltir.

“Mae’n dda gwybod, tra bod ein defaid a’n gwartheg yn pori yn yr amgylchedd naturiol cyfoethog ac amrywiol hwn, eu bod yn helpu i’w warchod. Dwi’n meddwl mai dyma sy’n gwneud Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru mor arbennig.“

I ddarllen mwy am stori Ben ac Ethan, ewch i’n hadran blogiau. 

Gogledd Cymru

Ar gyrion Llanrwst yng ngogledd Cymru, Sian a Llion Jones yw’r drydedd genhedlaeth i ffermio’r tir ym Moelogan Fawr ac maent yr un mor benderfynol o barhau i wella eu bioamrywiaeth ar y fferm. Ers meddiannu’r fferm chwe blynedd yn ôl, mae’r cwpl wedi plannu 24 erw o goetir ar y fferm, gan hybu bioamrywiaeth ar y fferm a gwella cysylltedd cynefinoedd ar draws rhannau isaf y fferm.

O ganlyniad i archwiliadau carbon ac arolygon bioamrywiaeth, mae Sian a Llion hefyd wedi gweithredu system bori cylchdro, sydd wedi arwain at wella iechyd y pridd ac wedi cynyddu’r tymor pori ar gyfer eu gwartheg. Wrth siarad am eu nodau ar gyfer dyfodol mwy cynaliadwy, dywedodd Sian,

“Rydym yn gweithio tuag at leihau’r mewnbynnau a brynir i mewn, cael ein da byw mor iach â phosibl, defnyddio’r glaswellt a diogelu’r pridd.”

Darllenwch mwy am y teulu Jones a’u stori ffermio yma.

Canolbarth Cymru

Yn swatio ar ucheldiroedd canolbarth Cymru, mae Emily Jones yn ffermio 150 erw o dir fferm ochr yn ochr â’i mam a’i thad. Mae Emily, ffermwr o’r bedwaredd genhedlaeth, yn hynod angerddol am y diwydiant amaethyddol a’r Ffordd Gymreig o ffermio. Wrth siarad am ei hymrwymiad i ffermio mor gynaliadwy â phosibl, dywedodd Emily,

“Rydym yn gwneud pob ymdrech i fynd yn ôl i’r hen amser – i draddodiadau ffermio hŷn. Ond rydym hefyd yn edrych ymlaen ac yn gwneud ein rhan i helpu’r amgylchedd, megis cynyddu faint o garbon sy’n cael ei ddal a ffermio mewn cytgord â natur.

Mae hyn wedi cynnwys plannu gwndwn llysieuol, sy’n cynnwys meillion, sicori a llyriad. Mae gan bob un o’r rhain ddefnyddiau naturiol a byddant yn ein helpu i wella iechyd y pridd, a chynhyrchiant ar y fferm, gan wella ein hallyriadau carbon net.”

Y cymysgedd hwn o hen draddodiadau a drosglwyddwyd drwy’r cenedlaethau ac arferion ffermio newydd, arloesol sydd yn gwneud y Ffordd Gymreig o ffermio mor unigryw, ac mor arbennig. Yng ngeiriau Emily,

“…mae’n dda cadw’r hen draddodiadau i fynd ochr yn ochr â dulliau mwy modern, a fydd nid yn unig yn bodloni chwaeth a thueddiadau newidiol, ond hefyd yn helpu i gadw safonau moesegol ac amgylcheddol mor uchel â phosibl.”

I ddarllen mwy am y Ffordd Gymreig o ffermio, a stori Emily, ewch i’n hadran blogiau. 

Share This