facebook-pixel

Dyfarnwr rygbi rhyngwladol yn cael ei gryfder gan Gig Eidion Cymru

Ion 6, 2020

Gan fod y Ffair Aeaf yn dathlu ei phen-blwydd yn 30 oed eleni, penderfynon ni fynd amdani gyda’n gweithgareddau ac roedd amserlen lawn dop o arddangosiadau coginio (sydd wastad yn boblogaidd), dosbarthiadau meistr bwtsiera a chystadleuthau coginio.

Yng nghanol yr holl fwrlwm, does dim amheuaeth pwy oedd seren y sioe wrth i ddyfarnwr rygbi’r undeb Nigel Owens ymuno â ni fel gwestai arbennig ar y prynhawn Llun.

Nid yn unig i Nigel lwyddo diddanu’r dorf gyda’i ffraethineb a’i swyn, ond hefyd camodd tu hwnt i’w ffiniau arferol ac i mewn i’r gegin i ymuno â Matthew Waldron, prif gogydd y Stackpole Inn yn Sir Benfro ar gyfer arddangosiad coginio. Gyda’i gilydd creodd y ddau bryd â naws Japaneaidd oedd yn addas iawn i hanes diweddar Nigel fel un o brif swyddogion Cwpan Rygbi’r Byd yn Japan.

Mae’n hawdd gwerthfawrogi natur brysur amserlen hyfforddi chwaraewr rygbi proffesiynol, ond efallai nad yw’r rhaglen o brofion ffitrwydd a pharatoi corfforol yr un mor drylwyr sy’n rhaid ei chwblhau i lwyddo fel dyfarnwr o’r radd flaenaf yr un mor amlwg. Rhoddodd Nigel gipolwg ar ei amserlen hyfforddi wrth iddo ddatgelu un o’i gyfrinachau – Cig Eidion Cymru!

“Does dim amheuaeth bod bwyta Cig Eidion Cymru wedi cyfrannu’n helaeth at y ffaith fy mod i’n dal i ddyfarnu ac yn pasio’r holl brofion ffitrwydd yn fy oedran i.”

Prin bod gwell cefnogaeth na’r un yma gan un o swyddogion rygbi pwysicaf y byd.

Felly mae’n glir, os ydych chi’n athletwr proffesiynol neu’n ceisio cadw’n heini dros fisoedd y gaeaf, gall Cig Eidion Cymru chwarae rhan fawr yn eich deiet.

Gwyliwch ein fideo isod am ragor o safbwyntiau Nigel. Heb ddatgelu gormod, rhaid dweud bod Nigel yn well dyfarnwr na chogydd!

Share This