Daw ein cyfres o ddosbarthiadau meistr coginio i ben gyda nid un ond dau rysáit cain gan un o gogyddion mwyaf cyffrous– a phrysur Gymru, Nathan Davies. Ydyn ni wedi arbed y gorau tan y diwedd? Gadewn iddych chi benderfynu…
Wedi’i eni yn Wolverhampton, symudodd y cogydd Nathan Davies i Gymru gyda’i deulu yn 6 oed. Astudiodd arlwyo yng Ngholeg Ceredigion yn Aberteifi, ac yna aeth ymlaen i weithio mewn ceginau proffesiynol yn Llundain – gan gynnwys Theatr ‘Shakespeare’s Globe’ – a bu am gyfnod byr yn gogydd preifat yn Ffrainc cyn symud yn ôl i Gymru. Yma, fe weithiodd Nathan yn rhai o fwytai gorau’r wlad, gan gynnwys gyda Steven Terry yn The Hardwick yn y Fenni ac fel Prif Gogydd o dan Gareth Ward mewn bwyty dwy-seren-Michelin, Ynyshir am 4 blynedd.
Yn 2019, cychwynnodd Nathan ar bennod newydd hynod gyffrous, gan agor bwyty SY23 yn Aberystwyth. Gyda bwydlen yn canolbwyntio ar gynhwysion tymhorol ac yn defnyddio’r gorau o gynnyrch lleol – i gyd wedi’u coginio dros dân ar griliau barbeciw yr oedd wedi’u gwneud â llaw ei hun, yn gyflym iawn denodd coginio Nathan sylw beirniaid coginio a hyd yn oed y ‘Michelin Guide’. Yn 2022, derbyniodd SY23 seren Michelin ac enillasant y wobr am yr ‘Agoriad Newydd Gorau’ ym Mhrydain Fawr ac Iwerddon – yr union flwyddyn y saethodd Nathan i fri ar y teledu fel enillydd rhagras Cymru yn ‘Great British Menu’ y BBC, gan weini rysáit cychwynnol yn seiliedig ar Gig Oen Cymru yn y wledd.
Mae Nathan wedi bod yn eiriolwr brwd dros Gig Oen Cymru erioed – a ategir gan y ffaith mae Cig Oen Cymru oedd yr unig saig gig a weinwyd yn ei fwyty. Destament gwirioneddol i’r tirweddau unigryw a’r canrifoedd o arferion ffermio traddodiadol y tu ôl i Gig Oen Cymru. Sylwir Nathan:
“Gyda Chig Oen Cymru, oherwydd y ffordd y mae’n cael ei fagu, nid yw wedi newid ers canrifoedd – nid oes angen iddo newid. Ac mae ein hinsawdd yma yn hyfryd a bob amser yn wlyb i fyny ar y bryn neu ar yr iseldiroedd, mae hynny’n ychwanegu llawer o flas. Mae’n naturiol iawn. Mae’n brydferth ac yn feddal pan fydd wedi’i goginio’n iawn.”
Y cyntaf o brydau Cig Oen Cymru Nathan a greodd fel rhan o’i Ddosbarth Meistr oedd y rysáit anhygoel yma o wddf Cig Oen Cymru gyda nionyn miso ac asbaragws wedi’i grilio. Y rysáit perffaith os ydych chi am wneud argraff ar eich gwesteion cinio, gan ddod â choginio gwerth seren Michelin i’ch ceginau!
Ac o ran y toriadau cig oen niferus sydd ar gael i greu seigiau cain gyda nhw, mae Nathan yn bendant mai’r toriad gorau o bell ffordd yw’r cyfrwy, gan ei alw’n ‘Rolls Royce’ Cig Oen Cymru.
“Y cyfrwy yw fy hoff doriad o gig oen. Y rheswm am hynny yw pa mor hyfryd a thyner ydyw.”
Yn enwog am goginio dros dân, yn sicr gwnaeth Nathan argraff arnom gyda’r rysáit cyfrwy Cig Oen Cymru hynod flasus hwn gyda garlleg du a madarch. Yn ddewis blasus yn lle rhost cinio dydd Sul traddodiadol, mae’r pryd gwych hwn o Gig Oen Cymru yn siŵr o wneud argraff ar hyd yn oed y ciniawyr mwyaf craff.
Pan ofynnon ni i Nathan beth sy’n gwneud Cig Oen Cymru mor arbennig, ei ymateb oedd,
“Pam defnyddio Cig Oen Cymru? I mi, mae’n rhywbeth difeddwl… i ni mae’n ymwneud â blas ac mae’n ymwneud â chysondeb a dyna pam rydyn ni bob amser yn cyrchu Gig Oen Cymru.”
Mae yna reswm mai Cig Oen Cymru yw’r dewis cyntaf i Gogyddion byd-enwog ledled y byd. Y blas. Yr ansawdd. Y cysondeb.
I ddarganfod mwy o ryseitiau Cig Oen Cymru anhygoel, ewch i’n tudalennau ryseitiau.