Unigryw i Gymru. Arbenigwyr yn eu maes.
Gyda lansiad ein hysbyseb deledu, sydd wedi’i ffilmio yn nhirwedd odidog Eryri, mae’n gyfle da i ddysgu ychydig mwy am stori’r fferm sydd yn yr hysbyseb.
Y llynedd aethom â’r cogydd blaenllaw, Francesco Mazzei, sydd wedi bod yn gefnogwr brwd o Gig Oen Cymru ers degawdau, i ymweld â Ken a Lisa Markham ar eu fferm yn Llanfihangel-y-Pennant. Yn ystod ei ymweliad, cafodd gyfle i ddysgu mwy am yr hyn sy’n gwneud Cig Oen Cymru mor arbennig, gyda chogyddion o bedwar ban o’r byd eisiau ei ddefnyddio.
Mae Ken a Lisa Markham yn teimlo’n frwd dros gynhyrchu Cig Oen Cymru. Mae eu praidd Mynydd Cymreig yn pori’r gweiriau naturiol ar Gader Idris, mynydd ym mhen deheuol Parc Cenedlaethol Eryri.
Mae’r Markhams yn cymryd rhan mewn cynlluniau amgylcheddol i sicrhau bod y fferm yn gweithio mewn cytgord â natur wrth gynhyrchu cynnyrch maethlon a naturiol o ansawdd.
“Mae ein hŵyn yn byw ar y glaswellt naturiol – maen nhw’n pesgi’n naturiol.”
Ar ddiwedd mis Rhagfyr, mae’r praidd yn cael eu tywys i lawr o’r mynydd, sy’n rhoi tri mis i’r glaswellt wella. Mae’r praidd yn dychwelyd i’r mynydd ar 1 Ebrill.
Ers canrifoedd, mae ffermwyr Cymru wedi chwarae rhan ganolog yn y gwaith o greu a chynnal y tirweddau gwledig hynod brydferth rydyn ni’n eu hadnabod ac yn eu caru, ac mae eu rheolaeth gynaliadwy wedi helpu i greu amgylchedd gwledig amrywiol sy’n gyfoethog o ran bywyd gwyllt ac yn gyfeillgar i ymwelwyr.
“Mae’r ffordd yma o ffermio yn dda i’r glaswellt, yr amgylchedd – mae popeth yn gweithio’n iawn.” Ken Markham