Ragu Cig Oen Cymru



Method

  1. Rhowch y briwgig cig oen mewn padell oer. Gwresogwch a'i 'ffrio'n sych' yn ei hylif ei hun nes mae wedi brownio. Ychwanegwch y nionyn, y garlleg a'r pupur a halen. Ychwanegwch y gwin coch a gadewch iddo fudferwi am ychydig funudau cyn ychwanegu gweddill y cynhwysion.
  2. Mudferwch ar wres isel am ryw 45 munud nes mae'r saws yn drwchus ac yn gyfoethog.
  3. Gweinwch gyda siapiau pasta wedi'u coginio'n ysgafn a pharmesan.

Recipe Information

Serves 4
Calories 396 kcals
Cooking Time

Bydd Angen

  • 450g (1lb) o friwgig Cig Oen Cymru coch
  • 1 nionyn, wedi'i dorri'n fras
  • 1 ewin garlleg, wedi'i dorri
  • Pupur a halen
  • 150ml (¼ peint) o win coch
  • 300ml (½ peint) o bassatta
  • Tun 400g (oddeutu) o domatos wedi'u torri
  • Sbrigyn o deim ffres
  • 1 ddeilen bae
  • 10ml (2 lwy de) o oregano ffres wedi'i dorri neu 5ml (1 lwy de) o oregano sych
  • Siapiau pasta a pharmesan i weini

Gwybodaeth am faeth

  • Calories 396 kcal
  • Energy 1669kJ
  • Fat 10g
  • Saturates 4.0g
  • Salt 0.9g
  • Iron 3.5g
  • 5-a-day 2.5