facebook-pixel

Trydan dŵr a ffermio teuluol yng nghanolbarth Cymru: Dewch i gwrdd â James Raw

Ebr 14, 2025

Yn swatio ym mynyddoedd godidog y Cambrian yn y canolbarth, mae Fferm Tyllwyd yn gartref i James Raw, ffermwr o’r seithfed genhedlaeth sy’n ffermio mewn partneriaeth gyda’i fam a’i wraig, Claire. Mae’r teulu wedi bod yn ffermio’r tir yn Nhyllwyd ers 1850, ac ers hynny mae wedi’i gydnabod fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), sef dynodiad cadwraeth a gynlluniwyd i warchod ardaloedd o dir neu ddŵr a ystyrir yn arbennig o werthfawr ar gyfer eu bywyd gwyllt, daeareg neu nodweddion tirffurf.

 

Mae’r fferm yn gartref i fuches o 35 o wartheg sugno Limousin pur a diadell o 850-900 o famogiaid, sy’n sylweddol llai na’r hyn a oedd tua 20 mlynedd yn ôl, lle byddai’r niferoedd wedi bod yn eu miloedd. Fodd bynnag, mae canrannau ŵyna wedi codi i 150%, felly er bod nifer y ddiadell wedi gostwng, mae nifer yr ŵyn a werthir yn gymharol debyg. Mae lleihau nifer y stoc a gedwir ar y fferm yn sicrhau bod modd cadw pob anifail ar ei dir trwy gydol y flwyddyn, gan leihau costau i’r busnes teuluol.

 

Pan ddaw i ffermio, ethos y teulu i raddau helaeth yw gwneud y mwyaf o’r hyn sydd ar gael iddynt, heb or-gymhlethu dim. Mae James yn frwd dros ffermio mewn cytgord â natur a’r amgylchedd, a defnyddio adnoddau naturiol y tir.

 

Medd James,

“Rydym yn cynhyrchu’r cig coch gorau yn y byd, gyda’r safonau amgylcheddol a lles uchaf.”

 

Mae James wedi gweithredu nifer o arferion a phrosiectau ar ei fferm, gan gynnwys creu dwy system ‘hydro’ a system ffermio sy’n canolbwyntio ar iechyd pridd a bioamrywiaeth. Yn ôl yn 2010, gweithredodd y teulu ddau gynllun ‘hydro’ ar eu tir, yn dilyn llwyddiant system debyg a weithredwyd gan daid James yn y 1950au.

 

Mae’r cynllun trydan dŵr ar y fferm bellach yn cynhyrchu bron ddigon o drydan i bweru 250 o gartrefi yn yr ardal leol, yn flynyddol. Yn ogystal, mae cyfraniad arbed carbon gydol oes y cynllun ‘hydro’ yn hafal i blannu 700,000 o goed neu 1,000 erw o goetir, sy’n dangos potensial a buddion enfawr ynni dŵr.

 

Cydnabyddiaeth.

Y llynedd, dyfarnwyd y ‘Wobr Effaith Isel’ fawreddog i James (o bosib yr enw gwaethaf y gellir ei dychmygu!) yng ngwobrau blynyddol M&S Select Farm ar gyfer Cymru a Lloegr. Dyfarnwyd y wobr o ganlyniad i’r holl arferion cynaliadwy a weithredwyd ar y fferm. O blannu 3-4km o wrychoedd a chreu coridorau naturiol newydd, i greu coetir newydd a defnyddio llawer iawn o’u llarwydd eu hunain ar gyfer ffensio a chladin ar adeiladau allanol – mae pob un o’r camau hyn wedi helpu i gynyddu bioamrywiaeth ar y fferm a lleihau’r effaith ar yr amgylchedd.

Dywed James,

“Cynaliadwyedd yw’r gair gwefreiddiol iawn ar hyn o bryd – ac yn gwbl briodol felly, ond fel ffermwyr dydw i ddim yn meddwl mai ni yw’r gorau am gyfleu’r pethau cadarnhaol rydyn ni’n eu gwneud ac mae’n braf gallu portreadu’r gweithredoedd cadarnhaol y mae’r rhan fwyaf ohonom yn eu gwneud ar ein ffermydd yn ddyddiol.”

Beth sydd nesaf i’r teulu Raw?

Mae James wedi cychwyn ar brosiect yn ddiweddar i weld a oes unrhyw beth y gellir ei wneud i wella iechyd pridd mawndir, a sut orau i reoli’r tir. Mawnogydd yw’r rhan fwyaf o’r tir mynydd ar y fferm, ac felly ychydig iawn y gellir ei wneud i effeithio ar iechyd y pridd. Fodd bynnag, mae James yn obeithiol y gall y prosiect mawndir gynnig rhywfaint o fewnwelediad i frwydro yn erbyn hyn.

 

Mae gan y teulu hefyd obeithion mawr y bydd eu mab 18 oed yn awyddus i fynd â busnes y teulu i’w bennod nesaf – gan ei wneud yr 8fed genhedlaeth i ofalu am y tir!

 

Edrychwn ymlaen at weld beth mae’r dyfodol yn dal i’r teulu…

Share This