Skip to content

Tarten Cig Oen Cymru, sbinaets a feta

Ingredients

  • 225g o friwgig Cig Oen Cymru PGI isel mewn braster, wedi’i dorri’n fân
  • Paced 500g o grwst pwff
  • 1 llwy fwrdd o bast tomatos wedi’u sychu yn yr haul, neu besto coch
  • 2 lond llaw fawr o sbinaets, wedi’u golchi
  • 1 courgette, wedi’i sleisio’n denau iawn
  • 100g o gaws feta, wedi’i falu
  • Pupur a halen

Cooking Time
10
Prep Time
4
Serves
  1. Twymwch y popty i 200˚C / 180°C ffan / Nwy 6.
  2. Ysgeintiwch ychydig o flawd ar fwrdd, a rholiwch y crwst arno i faint hirsgwar 20 x 30cm.
  3. Gyda chyllell, gwnewch farc ysgafn tua 2mm o’r ochrau, a rhowch y crwst ar glawr pobi mawr.
  4. Yna, taenwch y past tomato neu besto ar hyd y crwst gyda haen o sbinaets ac yna’r sleisys o courgette, y briwgig cig oen, y caws feta a’r pupur a halen, gan adael ymyl o 2cm yn wag.
  5. Rhowch y darten yn y popty am 30-35 munud, tan fod y llenwad wedi coginio a’r crwst yn euraidd.
  6. Gweinwch gyda salad a thatws newydd.

© Hybu Cig Cymru - Meat Promotion Wales 2025