Skip to content

Tagine Marrakech Cig Oen Cymru gyda bricyll

Ingredients

  • 1.2kg ffiled gwddf neu ysgwydd Cig Oen Cymru PGI, heb yr asgwrn ac wedi'i dorri'n dalpiau bras 2cm
  • 1 llwy fwrdd blawd
  • 1 llwy fwrdd olew llysiau neu gorn
  • 1 llwy fwrdd olew'r olewydd
  • 3 nionod coch canolig, wedi'u pilio a'u tafellu
  • 6 ewin garlleg, wedi eu pilio a'u malu
  • 30g gwraidd sinsir, wedi ei bilio a'i gratio'n fân
  • 1 llwy de paprica
  • ½ llwy de mace mâl
  • 2 lwy de cwmin mâl
  • 1 llwy de sinamon mâl
  • ½ llwy de cardamom mâl
  • Pinsiaid da o saffrwn
  • 2 lwy de purée tomato
  • 1½ litr isgell cyw iar neu gig oen, neu 2 giwb isgell wedi eu toddi mewn cymaint â hynny o ddŵr
  • 12 o fricyll sych, heb y cerrig, wedi eu mwydo dros nos mewn dŵr cynnes
  • 2 lemwn, wedi'u piclo

Cooking Time
25
Prep Time
4
Serves
  1. Rhowch halen a phupur ac ychydig o flawd dros y darnau cig oen yna ffriwch nhw mewn padell yn yr olew am ychydig o funudau nes eu bod wedi brownio. Rhowch nhw naill ochr.
  2. Yn y cyfamser coginiwch y nionod yn ysgafn yn yr olew olewydd gyda'r sbeisys i gyd am tua 10 munud, gan droi nes eu bod yn feddal ac yn dechrau troi eu lliw. Ychwanegwch ychydig o ddŵr os oes angen.
  3. Ychwanegwch y purée tomato a'r isgell a dewch â hwn i'r berw. Ychwanegwch y darnau cig oen a mudferwch yn ysgafn am 1 awr a hanner - 2 awr neu nes ei fod yn frau.
  4. Gweinwch mewn tagine os oes un gennych gyda cous cous wedi eu stemio.

© Hybu Cig Cymru - Meat Promotion Wales 2025