
Ingredients
- 450g o stêc Cig Eidion Cymru PGI - syrlwyn neu ffiled, wedi'i dorri'n stribedi tenau
- Olew
- 25g o fenyn (dewisol)
- 100g o fadarch botwm, wedi'u sleisio
- 1 pupur melyn, heb yr hadau ac wedi' sleisio'n stribedi tenau
- ½ llwy de o halen
- 1 llwy de o bupur du bras
- 1 nionyn, wedi'i sleisio'n denau
- 3 ewin garlleg, wedi'u gwasgu
- Joch o win gwyn neu frandi (dewisol)
- 300ml o stoc cig eidion
- 1 llwy fwrdd o biwrî tomato
- 1 llwy de o baprica
- 1 llwy fwrdd o fwstard Dijon
- 2 lwy fwrdd orlawn o crème fraiche
- Persli wedi'i dorri a reis gwyn a gwyllt wedi coginio i weini
Cooking Time
15
Prep Time
4
Serves
- Cynheswch ychydig o olew mewn padell a ffriwch y stribedi cig ar wres uchel am ychydig funudau i'w brownio, yna ychwanegwch joch o win gwyn neu frandi os dymunwch a choginiwch am funud arall. Tynnwch y cig o'r badell.
- Yn yr un badell, ychwanegwch ychydig o olew a menyn a ffriwch y nionyn, y garlleg, y madarch a'r pupur am ychydig funudau, yna ychwanegwch y mwstard, y pupur du, yr halen a'r paprica a throwch i gyfuno.
- Ychwanegwch y stoc a'r piwrî tomato a chodwch i'r berw.
- Ychwanegwch y cig i'r badell a'i gynhesu, yna ychwanegwch y crème fraiche. Codwch i'r berw a gweinwch gyda'r reis wedi coginio a llond llaw dda o bersli wedi'i dorri.