Skip to content

Salad Cig Eidion Cymru

Ingredients

  • 400g o stêcs rwmp Cig Eidion Cymru PGI
  • 100g o quinoa, wedi’i goginio
  • 160g o frocoli
  • 2 oren
  • 100g o sbigoglys
  • 40g o gnau cyll wedi’u gwynnu
  • 1 llwy fwrdd o fêl
  • 2 llwy fwrdd o olew olewydd
  • Halen a phupur i roi blas

10
Cooking Time
10
Prep Time
4
Serves
  1. Rhowch sudd 1 oren mewn powlen a’i gymysgu â’r mêl, olew olewydd a’r halen a phupur. Defnyddiwch hanner y gymysgedd i farinadu’r stêc, a chadwch yr ail hanner ar gyfer y quinoa.
  2. Stemiwch y brocoli’n ysgafn a chymysgwch mewn powlen gyda’r quinoa, gweddill y marinâd, a dail sbigoglys. Yn y cyfamser, tostiwch y cnau cyll yn y badell am ychydig o funudau cyn eu torri'n fân.
  3. Rwbiwch halen a phupur i ddwy ochr y stêc a’i goginio mewn padell ffrio gynnes ac ychydig o olew. Coginiwch at eich dant cyn tynnu o’r badell a’i adael i orffwys am ychydig o funudau wedyn torrwch i ddarnau hir.
  4. Piliwch a sleisiwch yr oren a’i weini dros y salad. I orffen creu’r salad, ychwanegwch y stêc a’r cnau cyll, a gweini popeth yn gynnes.

© Hybu Cig Cymru - Meat Promotion Wales 2025