Skip to content

Pizza Cig Oen Cymru a phesto gyda ffeta

Ingredients

  • 225g o stecen coes Cig Oen Cymru PGI heb esgyrn (1 stecen fawr neu 2 stecen fach)
  • Toes pizza, digon i 1 pizza
  • Sesnin
  • 100g o besto gwyrdd isel mewn braster
  • 1 planhigyn wy wedi'i dorri ar ei hyd
  • 2 gorbwmpen wedi'u torri ar eu hyd
  • 1 llwy fwrdd o olew
  • 150g o gaws ffeta, wedi'i friwsioni
  • Llond dwrn o ddail berwr
  • Hadau 1 pomgranad
Ar gyfer y dresin:
  • 1 lemwn, y sudd a'r croen
  • 50ml o olew olewydd coeth iawn
  • 1 ewin garlleg, wedi'i falu
  • Pupur a halen

Cooking Time
25
Prep Time
5+
Serves
  1. Cynheswch y popty i 220°C / 200°C ffan / Nwy 7.
  2. Irwch hambwrdd pobi yn ysgafn, neu defnyddiwch bapur pobi.
  3. Ysgeintiwch flawd dros eich man gweithio a rholiwch y toes i greu siâp cymharol grwn a thenau, cyn ei roi ar yr hambwrdd. Gadewch iddo gymryd ei siâp am rai munudau.
  4. Rhowch olew ar eich gradell neu eich padell ffrio, ac ewch ati i olosgi tafelli'r corbwmpenni a'r planhigyn wy yn ysgafn ar wres uchel, gan eu coginio am rai munudau'n unig.
  5. Taenwch y pesto dros y toes. Rhowch dafelli'r corbwmpenni a'r planhigyn wy ar ei ben, gan frwsio'r llysiau ac ymylon y pizza yn ysgafn ag olew.
  6. Rhowch y pizza yn y popty a'i goginio am 15-20 munud tan y bydd y gwaelod yn gras.
  7. Tra bydd y pizza yn y popty, coginiwch y stecen gig oen. Rhowch ychydig o olew mewn padell boeth a ffriwch y stecen am 4-5 munud ar bob ochr, cyn ei blasuso a'i rhoi i'r naill ochr.
  8. Paratowch y dresin trwy gyfuno'r holl gynhwysion a'u rhoi mewn jwg neu bowlen fechan.
  9. Pan fydd y pizza yn barod, rhowch ychydig o’r caws ffeta wedi'i friwsioni, hadau'r pomagranad, y dail berwr, a’r stecen gig oen wedi'i thorri'n denau ar ei ben.
  10. Gweinwch y pizza gyda'r dresin lemwn.
Cyngor: er mwyn arbed amser, rydym wedi defnyddio toes pizza parod wedi'i oeri ar gyfer y rysáit hon, ond gallwch chi baratoi eich toes eich hun, neu ychwanegu dŵr at gymysgedd toes a dilyn y cyfarwyddiadau ar y pecyn. Rydym wedi defnyddio darnau o stecen coes cig oen wedi'i choginio ar gyfer ein pizza, ond gallech chi ddefnyddio darnau dros ben o gig oen rhost, os byddai'n well gennych.

© Hybu Cig Cymru - Meat Promotion Wales 2025