
Ingredients
- 450g briwgig Cig Oen Cymru PGI heb lawer o fraster
- 1 llwy fwrdd past harissa
- 1 ewin garlleg, wedi’i falu
- 5 tomato heulsych, wedi’u torri
- Pupur a halen
- Sgiwerau bambŵ, wedi’u socian mewn dŵr oer
- 1 tomato mawr, wedi’i dorri’n giwbiau
- ¼ ciwcymbr, wedi’i dorri’n giwbiau
- 4 tomato heulsych, wedi’u torri
- Pinsiad o oregano sych
- 50g caws ffeta, wedi’i falu
- Pupur a halen
- 2 lwy fwrdd persli ffres, wedi’i dorri’n fras
Cooking Time
20
Prep Time
4
Serves
- Yn gyntaf rhowch y briwgig mewn powlen fawr ac ychwanegwch y past harissa, y garlleg, y tomatos a’r pupur a halen.
- Yna rhannwch y gymysgedd yn wyth darn a’u mowldio’n siapiau selsig.
- Rhowch y sgiwerau drwy’r siapau selsig a’u gwasgu’n ysgafn i’w cadw’n sownd.
- Rhowch y koftas sydd newydd gael eu siapio ar blat, eu gorchuddio a’u gadael i oeri yn yr oergell am 15-20 munud.
- Nawr rhagdwymwch y gril, tynnwch y koftas o’r oergell, a’u coginio dan y gril poeth. Coginiwch am ryw 12 munud hyd nes eu bod yn euraidd ac wedi’u coginio’n drylwyr.
- Wrth i’r koftas cig oen goginio; cymysgwch y tomato mawr, y ciwcymbr, y tomatos heulsych, yr oregano sych, y caws ffeta a’r persli sych - ac ychwanegwch fymryn o bupur a halen.
- Gweinwch y koftas blasus gyda salad Groegaidd a bara pitta wedi’i grasu.