
Ingredients
- 8 golwyth Cig Oen Cymru PGI, lwyn, ffolen neu gytledi
- 150g o iogwrt naturiol
- 4 ewin garlleg, wedi'u malu
- 2.5cm o sinsir ffres, wedi’i gratio
- 1 llwy fwrdd o baprica
- 1 llwy fwrdd o gwmin mâl
- 2 lwy de o garam masala
- 1 llwy de o bowdr tsili mwyn
- 1 lemwn, y croen a'r sudd (cadwch y croen ar gyfer y salad)
- 2 domato mawr, wedi'u deisio'n fân
- ½ ciwcymbr, wedi'i ddeisio'n fân
- 1 winwnsyn coch, wedi'i ddeisio'n fân
- Llond dwrn o fintys, wedi'i dorri'n fân
- Croen lemwn
- Carton bach o iogwrt naturiol
- Llond dwrn o fintys, wedi'i dorri'n fân
- 1 leim, croen a sudd ½ leim
- 1 llwy fwrdd o saws tsili melys
Cooking Time
120
Prep Time
5+
Serves
Pryd perffaith i'w rannu yn yr haf – gallwch gynyddu'r cynhwysion yn gymesur ar gyfer barbeciw gyda ffrindiau!
- Mewn powlen fawr, cymysgwch yr holl gynhwysion ar gyfer y marinâd, gan eu troi'n dda. Ychwanegwch y golwythion a'u gorchuddio'n llwyr. Rhowch gaead arnynt a'u gadael yn yr oergell am 2-4 awr.
- Tynnwch y golwythion o'r oergell 30 munud cyn eu coginio.
- Paratowch y salad trwy gymysgu'r holl gynhwysion ynghyd a'u rhoi mewn powlen weini.
- I wneud y dip, cymysgwch yr holl gynhwysion ynghyd a'u rhoi mewn dysgl fechan.
- Gellir coginio'r golwythion yn y popty, eu grilio, neu eu ffrio mewn padell – yr opsiwn delfrydol fyddai eu coginio ar radell neu farbeciw.
- Er mwyn eu coginio, crafwch rywfaint o'r marinâd oddi ar y golwythion, rhowch ychydig o olew yn eich padell neu ar eich gradell, a choginiwch y golwythion am tua 5-6 munud ar bob ochr, yn dibynnu ar eu trwch a pha mor dyner yr ydych yn hoffi eich cig oen.
- Rhowch y golwythion i'r naill ochr am pum munud, cyn eu gweini gyda'r salad, y dip a bara fflat wedi'i gynhesu.