Skip to content

Coes rhost Cig Oen Cymru gyda jin a llugaeron

Ingredients

  • 1 goes Cig Oen Cymru PGI, caniatewch 175-350g i bob person
  • 450g selsig Cig Oen Cymru PGI neu Cig Eidion Cymru PGI, holltwch y croen a thynnu'r cig allan
  • 6 llwy fwrdd jin
  • 3 llwy fwrdd saws llugaeron
  • 4 winwnsyn coch bychan
  • 1 llwy de menyn
  • 2 sbrigyn rhosmari ffres

Cooking Time
20
Prep Time
5+
Serves
  1. Twymwch y popty i 180ºC / 160°C ffan / Nwy 4-5. Pwyswch y cig a gweithio allan am faint y bydd raid ei goginio: canolig – 25 munud ar gyfer pob 450g / 500g a 25 munud arall, neu wedi’i goginio’n dda – 30 munud ar gyfer pob 450g / 500g a 30 munud arall.
  2. Rhowch 2 ddalen o ffoil ar dun rhostio a rhowch y goes cig oen ar y ffoil. Cymysgwch y jin a’r saws llugaeron a’i daenu dros y cig oen.
  3. Codwch y ffoil o amgylch ochrau’r cig, ond gadewch dop y cig heb ei orchuddio o gwbl. Rhowch y cig yn y ffwrn gynnes i rostio a chodwch y sudd dros y cig bob hyn a hyn wrth iddo goginio.
  4. Ychwanegwch y winwns 45 munud cyn diwedd yr amser coginio terfynol ar gyfer yr oen.
  5. Torrwch y winwns yn eu hanner ar eu traws (y coesyn ar y top) a defnyddiwch lwy i sgwpio rhai o’r haenau allan gan adael 2-3 haen yn y gragen allanol.
  6. Torrwch y winwnsyn sydd wedi’i dynnu allan yn fras. Cynheswch y menyn mewn sosban a ffrio’r winwns ynddo’n ysgafn. Tynnwch oddi ar y gwres a gadael iddyn nhw oeri ychydig. Ychwanegwch y rhosmari a’r cig o’r selsig a’u cymysgu.
  7. Cymerwch lond llaw o’r gymysgedd a’i stwffio i mewn i’r cregyn winwns. Rhowch nhw i sefyll o amgylch y cig. Taenwch ychydig o olew olewydd drostyn nhw a’u coginio am 40-50 munud nes bo’r winwns yn feddal ac yn hollol euraidd. Gadewch i’r cig orffwys am tua 15 munud.
  8. Gweinwch gyda thatws rhost, winwns wedi pobi, llysiau tymhorol a sudd jin llugaeron y cig.

© Hybu Cig Cymru - Meat Promotion Wales 2025