
Ingredients
- 1 goes Cig Oen Cymru PGI
- 2 lwy fwrdd o olew olewydd
- 2 winwnsyn bach, wedi'u sleisio
- Halen a phupur
- 2 lond llaw fawr o ddail mintys ffres, wedi'u rhwygo'n fras
- 6 llwy fwrdd o finegr gwin gwyn
- 2 lwy fwrdd o siwgr brown
- 1 llond llaw fawr o ddail mintys ffres, wedi'u torri'n fras
- 6 llwy fwrdd o finegr gwin gwyn
- 1 llwy fwrdd o siwgr brown
Cooking Time
15
Prep Time
5+
Serves
- Amser Coginio: wedi'i choginio'n ganolig – 25 munud am bob 450g/500g a 25 munud ychwanegol, neu wedi'i choginio'n dda – 30 munud am bob 450g/500g a 30 munud ychwanegol.
- Pwyswch y darn o gig oen a chyfrifwch yr amser coginio. Rhowch y cig oen ar fwrdd a gwnewch holltau yn y cig mewn sawl lle.
- Rhowch haenen o ffoil ar waelod tun rhostio mawr. Rhowch yr olew, winwns, halen a phupur, mintys, finegr a'r siwgr brown yn y badell rhostio, ychwanegwch y cig oen a'i rolio o gwmpas i orchuddio'r cig i gyd. Gwasgwch rywfaint o'r winwns, mintys a siwgr i mewn i rai o'r holltau − rhowch orchudd dros y cig a'i adael i farinadu am ddwy awr yn yr oergell.
- Tynnwch y cig o'r oergell, taenwch unrhyw suddion y marinâd drosto, crychwch y ffoil yn llac iawn o gwmpas gwaelod y cig a'i goginio am yr amser coginio a gyfrifwyd. Taenwch y suddion coginio dros y cig oen ychydig o weithiau wrth ei goginio.
- Cymysgwch yr holl gynhwysion ar gyfer y saws mintys a'u gadael i sefyll ar dymheredd ystafell am tua 20 munud er mwyn i'r blasau gyfuno. Tynnwch y cig oen o'r ffwrn a'i adael i orffwys am tua 15-20 munud cyn ei dorri.