Skip to content

Cebabau Cig Oen Cymru â sbeis sumac gyda couscous blodfresych

Ingredients

  • 800g o wddf Cig Oen Cymru PGI heb yr asgwrn, wedi'i dorri'n ddarnau
Ar gyfer y marinâd:
  • 3 llwy fwrdd o bowdwr sumac
  • 2 lwy fwrdd o olew
  • 1 lemwn, croen
  • ½ lemwn, sudd
  • Halen a phupur
Ar gyfer y couscous:
  • 1 pen blodfresych (tynnwch y coesynnau trwchus), wedi'i dorri mewn prosesydd bwyd neu ei gratio'n fras
  • Ychydig o olew
  • 1 neu 2 hadau bomgranad
  • Llond llaw o ddail mintys, wedi'u torri
  • 8 bricyllen sych, wedi'u deisio
  • 6 datysen heb y cerrig, wedi'u torri
  • Bwnsiad bach o sibols, wedi'u sleisio
  • 1 leim, croen a sudd
  • Triogl pomgranad i orffen

Cooking Time
30
Prep Time
4
Serves
  1. Cymysgwch yr holl gynhwysion ar gyfer y marinâd ac ychwanegwch y cig oen. Gadewch iddo farinadu am o leiaf 30 munud.
  2. Rhowch y darnau cig oen ar sgiwerau pren (wedi'u gwlychu ymlaen llaw). Coginiwch o dan gril poeth, ar farbeciw neu mewn gradell am oddeutu 10 munud, gan eu troi a'u bastio gyda'r marinâd.
  3. I wneud y couscous, ffriwch y briwsion blodfresych mewn olew poeth am 5-6 munud. Gadewch iddo oeri yna cymysgwch gyda'r cynhwysion eraill. Gweiniwch gyda'r cebabau a gorffennwch gydag ychydig o'r triogl pomgranad.

© Hybu Cig Cymru - Meat Promotion Wales 2025