Skip to content

Cacennau Cwpan Cig Eidion Cymru

Ingredients

  • 225g o friwgig Cig Eidion Cymru PGI, heb lawer o fraster
  • ½ tua 400g tomatos tun wedi'u torri
  • 1 llwy de o bowdwr tsili
  • 4 tomato wedi'u sychu gan yr haul, wedi'u torri
  • 2 shibwnsyn, wedi'u sleisio
  • 1 tomato ffres, wedi'i deisio
  • 500g pecyn parod o grwst brau
  • 25g o gaws cheddar, wedi'i gratio'n fân
  • 500g o datws stwnsh parod o becyn, ar gyfer yr eisin
  • Tomatos wedi'u torri'n fân iawn a shibwns i addurno'r cacennau cwpan
  • Cesys cacennau cwpan/myffins

Cooking Time
30
Prep Time
5+
Serves
  1. Cynheswch y ffwrn ymlaen llaw i 180°C / 160°C ffan / Nwy 4.
  2. Mewn sosban fach, ffriwch y briwgig heb ychwanegu olew nes ei fod yn frown, nesaf rhowch y briwgig mewn sosban oer gan droi'r gwres i fyny, bydd y cig yn coginio yn ei sudd ei hun.
  3. Ychwanegwch yr hanner tun o domatos, y tsili a'r tomatos wedi'u sychu yn yr haul a'u coginio am tua 15 munud. Gadewch i'r cymysgedd oeri ychydig ac ychwanegwch y shibwns a'r tomato ffres. Rhowch gesys papur i mewn i dun ar gyfer 12 myffin dwfn. Rholiwch y crwst allan. Defnyddiwch dorrwr rhychog (tua 10cm o ddiamedr) i dorri 12 gwaelod a'u rhoi yn y cesys papur. Gwthiwch y crwst i mewn i'r cês papur yn ofalus i'w leinio. Rhowch ychydig o bapur pobi anlynol wedi'i grychu ym mhob cês ac ychwanegwch ychydig ddarnau o basta sych neu reis, sych a'u pobi'n wag (er mwyn eu coginio ryw ychydig) am tua 15 munud.
  4. Tynnwch y tun allan o'r ffwrn a thynnwch y papur pobi a'r pasta. Rhowch gymysgedd y briwgig ym mhob cês. Cynheswch y tatws stwnsh yn y ficro-don a rhowch y tatws stwnsh i mewn i fag peipio. Peipiwch chwyrlïad ar ben cymysgedd y briwgig. Os nad oes gennych fag, gallech ddefnyddio llwy i roi'r tatws stwnsh ar ben y cacennau gan daenu fforc drwy'r tatws i greu patrwm. Taenwch ychydig o gaws wedi'i gratio dros y cacennau a'u rhoi o dan gril sydd wedi'i gynhesu'n boeth ymlaen llaw am 2-3 munud i frownio.
  5. Addurnwch y cacennau cwpan gyda shibwns a thomato. Maen nhw'n flasus yn gynnes neu'n oer, fel rhan o fwffe, byrbryd, cinio neu swper.

© Hybu Cig Cymru - Meat Promotion Wales 2025