Skip to content

Brisged Cig Eidion Cymru wedi’i goginio’n araf

Ingredients

  • 1.5kg o frisged Cig Eidion Cymru PGI
  • Olew
  • 450ml o stoc cig eidion neu gwrw
Ar gyfer y marinâd sych:
  • 2 lwy fwrdd o bupur du mâl bras
  • 1 llwy fwrdd o siwgr brown
  • 1 llwy fwrdd o bowdwr nionyn
  • 2 lwy de o bowdwr mwstard
  • 2 lwy de o bowdwr garlleg
  • 2 lwy de o bowdwr tsili
  • 1 llwy de o baprica
  • 1 llwy de o bowdwr cayenne
  • 1 llwy de o halen

Cooking Time
15
Prep Time
5+
Serves
Edrych am rhywbeth i wneud gyda beth sydd dros ben o’r rysáit yma? Rhowch gynnig ar ein Burrito Cig Eidion Cymru a phwdin Efrog  
  1. I baratoi'r marinâd, cyfunwch yr holl gynhwysion sych. Brwsiwch y frisged ag ychydig o olew yna defnyddiwch eich dwylo i rwbio'r cynhwysion sych dros y cig. Gadewch i'r cig farinadu yn yr oergell am o leiaf awr - byddai dros nos hyd yn oed yn well.
  2. Cynheswch y popty ymlaen llaw i 160ºC / 140ºC ffan / Nwy 4.
  3. I goginio, cynheswch ychydig o olew mewn padell ffrio fawr a ffriwch y cig ar bob ochr nes mae wedi brownio.
  4. Trosglwyddwch i dun rhostio wedi'i leinio â ffoil neu bapur pobi, ychwanegwch stoc neu gwrw'n ofalus o amgylch y cig, gorchuddiwch a choginiwch yn y popty am oddeutu 2 awr fesul 450g o gig nes mae'r cig yn frau. Gallwch goginio mewn coginiwr araf ar y gosodiad 'isel' am 8 awr.
  5. Tynnwch o'r popty a gadael iddo sefyll am 30 munud cyn ei gerfio yn groes i'r graen neu ei dynnu'n ddarnau.
  6. Gweinwch mewn ffyn bara gyda gercinau a nionod wedi ffrio.

© Hybu Cig Cymru - Meat Promotion Wales 2025