
Cynhwysion
Ar gyfer y stêcs
- 2 x 250g stêc syrlwyn Cig Eidion Cymru
- Pupur du a halen
Ar gyfer y croutons garlleg gwyllt
- 2-3 tafell o fara ddoe, wedi’i dorri’n dalpiau
- 1 llond llaw fach o ddail garlleg gwyllt (neu 1-2 ewin garlleg)
- 3-4 llwy fwrdd olew olewydd
Ar gyfer y dresin Cesar
- 240g mayonnaise
- 2 ewin garlleg, wedi’u briwo’n fân
- 4 llwy de sudd lemon
- 2 lwy de mwstard Dijon
- 1 llwy de saws Worcestershire
- 60g Parmigiano Reggiano wedi’i ratio’n fân
- 2 lwy fwrdd dŵr oer
- Pupur du wedi’i falu’n ffres
- 2–3 diferyn Tabasco
Ar gyfer y salad
- 1–2 letys romaine, wedi’u torri neu’r dail wedi’u gwahanu
- Parmesan ychwanegol, wedi’i siafio neu ei ratio
15
Amser coginio
30
Amser paratoi
2
Yn gweini
- Salad Cesar stêc ffres, hawdd wedi'i wneud gyda syrlwyn Cig Eidion Cymru PGI, letys romaine crimp a dresin Cesar hufennog. Wedi'i orffen gyda croutons euraidd wedi'u trwytho â garlleg gwyllt, mae'r pryd syml hwn yn gweithio'n dda ar gyfer cinio ysgafn neu bryd bwyd hamddenol gyda'r nos.
- Golchwch a sychwch y garlleg gwyllt yn drylwyr, torrwch unrhyw goesynnau caled, yna ei gymysgu gyda'r olew olewydd nes ei fod yn llyfn, neu torrwch y garlleg yn fân a’i gymysgu i gael gorffeniad mwy rystig. Os ydych chi'n defnyddio ewinedd garlleg yn lle, malwch neu gratiwch nhw’n fân a’u cymysgu gyda'r olew.
- Taflwch y bara wedi'i rwygo yn yr olew garlleg gwyllt nes ei fod wedi'i orchuddio'n dda.
- Rhowch y cyfan yn y ffwrn ffrio ar 180°C am 5–8 munud, neu ei bobi yn y popty ar 180°C am tua 10 munud, nes ei fod yn euraidd ac yn grimp, cyn ei ddraenio ar bapur cegin a'i roi o'r neilltu.
- Tynnwch y steciau o'r oergell 20–30 munud cyn coginio.
- Tarwch y stêcs yn sych yn ysgafn a’u sesno’n hael gyda halen a phupur du. Cynheswch badell ffrio â gwaelod trwm dros wres uchel nes ei bod yn boeth iawn, yna ychwanegwch ddiferyn o olew.
- Ychwanegwch y stêcs i’r badell a’u coginio heb eu symud i ddatblygu cramen dda. Ar gyfer stêcs canolig-amrwd, coginiwch nhw am tua 2–3 munud yr ochr; I’w coginio'n dda, mae angen 4–5 munud yr ochr, yn dibynnu ar y trwch. Yn y funud olaf, gallwch ychwanegu lwmp o fenyn i'r badell a'i arllwys dros y stêcs gyda llwy i gael blas ychwanegol, os dymunwch. Trosglwyddwch nhw i fwrdd a’u gadael i orffwys am o leiaf 5–10 munud.
- Mewn powlen, cymysgwch y mayonnaise, garlleg, sudd lemon, mwstard Dijon a’r saws Worcestershire nes ei fod yn llyfn.
- Cymysgwch y Parmesan drwyddo, yna ychwanegwch y dŵr oer i’w lacio ychydig. Ychwanegwch bupur du ac ambell ddiferyn o Tabasco.
- Taflwch y letys romaine gyda rhywfaint o'r dresin mewn powlen fawr, yna ei rannu rhwng powlenni gweini.
- Sleisiwch y stêcs yn erbyn y graen cyn eu gweini, cyn eu gosod ar y saladau.
- Diferwch ychydig mwy o ddresin dros y cyfan, cyn gorffen gyda'r croutons garlleg gwyllt a Parmesan ychwanegol.
- Nodiadau
- Tynnwch y stêcs o'r oergell 20–30 munud cyn eu coginio er mwyn iddynt gyrraedd tymheredd yr ystafell.
- Os nad oes garlleg gwyllt ar gael, defnyddiwch 1–2 ewin garlleg yn lle hynny - torrwch nhw'n fân neu eu malu a'u cymysgu â'r olew cyn gorchuddio'r bara.
- Sleisiwch y stêc yn union cyn ei gweini a thorri yn erbyn y graen bob tro i gael y canlyniad mwyaf brau.
- I gael y canlyniadau gorau, dewiswch Gig Eidion Cymru PGI, sy'n gwarantu ansawdd ac olrheinedd llawn o'r fferm i'r fforc - wrth brynu syrlwyn, chwiliwch am frithder da a lliw coch cyfoethog i sicrhau blas a breuder.


