Mynd i'r cynnwys

Peli Cig Oen Cymreig gyda Phomgranad mewn un Sosban, gyda Feta wedi’i Chwipio gan Healthy Family Food Ideas

Cynhwysion 

    • 500g o gig oen Cymreig wedi’i falu
    • 3 llwy fwrdd o gymysgedd sbeis Baharat*
    • 150g o datws melys wedi’u coginio*
    • ½ llwy de o halen môr

     

    • Ar gyfer y feta wedi’i chwipio
    • 130g o gaws bwthyn
    • 200g o gaws feta
    • Ar gyfer y saws gludiog
    • 5 llwy fwrdd o surop pomgranad (molas)
    • 200ml o stoc esgyrn (dewisol)

     

    • I weini
    • 4 llwy fwrdd o fintys neu goriander ffres, wedi’u torri
    • 4-6 llwy fwrdd o hadau pomgranad
    • 4-6 llwy fwrdd o gnau pistasio wedi’u torri
    • 4 bara gwastad
    • Olew olewydd, ar gyfer coginio os oes angen

15
Amser coginio
15
Amser paratoi 
4
Yn gweini
  1. Yn gwneud tua 34 o beli cig bach:
  2. Yn gyntaf, gwnewch y feta wedi'i chwipio drwy gymysgu'r caws bwthyn a'r feta gyda'i gilydd mewn prosesydd bwyd nes eu bod yn llyfn. Os ydych chi'n defnyddio cymysgydd tal, efallai y bydd angen ychydig o ddŵr arnoch a chrafu'r ochrau ychydig o weithiau.
  3. Cymysgwch y cig oen wedi'i falu, y gymysgedd sbeis baharat, y tatws melys wedi'u coginio a'r halen môr gyda'i gilydd. Gan ddefnyddio eich dwylo, siapiwch y gymysgedd yn belenni cig bach, tua maint pêl ping-pong.
  4. Cynheswch badell fawr dros wres uchel a choginiwch hanner y pelenni cig nes eu bod yn frown.
  5. Trosglwyddwch nhw i blât ac ailadroddwch y broses gyda'r gweddill.
  6. Rhowch y badell yn ôl ar y gwres ac ychwanegwch y stoc esgyrn, gan ei ferwi nes ei fod bron yn debyg i surop. Os nad ydych chi'n defnyddio stoc esgyrn, ychwanegwch ychydig o ddŵr yn lle hynny. Cymysgwch y surop pomgranad i mewn a choginiwch am ychydig eiliadau nes ei fod yn gludiog ac yn debyg i surop.
  7. Rhowch y pelenni cig yn ôl yn y badell a'u troi i'w gorchuddio â'r saws gludiog blasus.
  8. Cynheswch y bara gwastad a'u gweini gyda'r pelenni cig, y feta wedi'i chwipio, mintys neu goriander ffres, hadau pomgranad a chnau pistasio wedi'u torri ar eu pen, os ydych chi'n eu defnyddio.
  9. * Dim baharat? Defnyddiwch 1½ llwy de o gwmin, 1 llwy de o goriander ac 1 llwy de o bupur pob-sbeis (allspice) yn lle hynny.
  10. * Y gyfrinach i belenni cig hynod feddal yw'r tatws melys wedi'u coginio. Mae'n hawdd rhoi un yn y popty wrth goginio rhywbeth arall. Os nad oes gennych chi unrhyw un, defnyddiwch 4 llwy fwrdd o sos coch heb siwgr a 50g o gaws mozzarella sych wedi'i gratio yn lle hynny.

© Hybu Cig Cymru - Meat Promotion Wales 2025