Gyda’r plant bellach adref o’r ysgol yn ystod y cyfnod rhyfedd hwn, bydd eu diddanu tra’n parhau â’u haddysgu o yn aruthrol o bwysig. Beth bynnag yw eu hoedran, gall coginio gynnig cymaint i bob plentyn o sgiliau mewn mathemateg a darllen yn ogystal â sgiliau bywyd gwerthfawr.
Mae gennym ystod eang o syniadau am ryseitiau i’w coginio gyda’ch plant er mwyn helpu i gynyddu eu hyder yn y gegin a’u cael i fwynhau Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru
Ac ar ôl iddyn nhw orffen coginio, rhannwch eu campwaith gyda ni trwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol!
Pan nad ydyn nhw yn y gegin mae gennym ni hefyd nifer o weithgareddau hwyliog ar eu cyfer, pob un yn canolbwyntio ar ddysgu am ffermio yng Nghymru ac o ble mae ein bwyd yn tarddu. Cymerwch gip ar y dolenni isod lle rydyn ni wedi rhannu ein gweithgareddau i ddarparu ar gyfer plant 4-7 oed a phlant 8-11 oed fel y gall plant o bob oed fwynhau dysgu am fywyd ar fferm. O groeseiriau a chwileiriau i straeon addysgol, mae oriau o hwyl a dysgu i’w cael gyda’r ffermwr Siôn, ei gi defaid Meg a’u ffrindiau oll.
Felly peidiwch ag oedi. Lawrlwythwch ac argraffwch rhai gweithgareddau hwyl i’ch plant eu mwynhau heddiw!
Plant 4-7 –
Gweithgaredd 1: Cyfri’r anifeiliaid
Gweithgaredd 2: Cyfri’r anifeiliaid 2
Gweithgaredd 3: Lliwio i mewn
Gweithgaredd 4: Lliwio i mewn 2
Gweithgaredd 5: Beth yw’r gwahaniaeth?
Gweithgaredd 6: Llythrennau ar goll
Gweithgaredd 7: O ble mae cig yn dod?
Gweithgaredd 8: Chwilair
Gweithgaredd 9: Tynnu llun
Gweithgaredd 10: Mwgwd dafad
Gweithgaredd 11: Drysfa
Gweithgaredd 12: Drysfa 2
Gweithgaredd 13: Dot i ddot
Gweithgaredd 14: Beth sy’n perthyn?
Gweithgaredd 15: Tynnu llun o Meg y ci
Gweithgaredd 16: Tynnu llun o’r bwyd
Plant 8-11 –
Gweithgaredd 1: Ble mae defaid a gwartheg yn byw?
Gweithgaredd 2: Chwilair
Gweithgaredd 3: Pa ddau sy’n union yr un fath?
Gweithgaredd 4: Beth sy’n gwneud cig coch mor arbennig?
Gweithgaredd 5: Beth mae’n olygu?
Gweithgaredd 6: Sudoku a chwilair
Gweithgaredd 7: Beth yw’r gwahaniaeth?
Gweithgaredd 8: Stori – Blwyddyn ffarmwr Cymreig
Gweithgaredd 9: Porc a bacwn!
Gweithgaredd 10: Beth sy’n perthyn?
Gweithgaredd 11: Torri a gludo
Gweithgaredd 12: Amser am jôc!
Gweithgaredd 13: Stori – Diet cytbwys
Gweithgaredd 14: Lliwio i mewn
Gweithgaredd 15: Lliwio i mewn 2