Eleni, ar gyfer Wythnos Cig Eidion 2026 rydym yn dathlu'r rôl hanfodol mae siopau fferm a chigyddion yn chwarae wrth ddarparu cig eidion naturiol blasus, o ffermydd lleol, i fyrddau ledled y wlad.
O'r ffermwyr sy'n ei gynhyrchu trwy i'r cigyddion, siopau fferm a manwerthwyr. Mae’r ffocws ar ansawdd, tarddiad, a'r bobl sy'n helpu i sicrhau bod ein cig eidion naturiol blasus yn aros ar ein platiau.
Ar draws y DU, mae 71% yn credu bod y cig maen nhw'n ei brynu o gigyddion o ansawdd da, a'r llynedd prynodd dros 3 miliwn o siopwyr o gigydd (AHDB/YouGov, y rhai sy'n prynu cig gan gigydd lleol, Tachwedd 2025). Yn ogystal, dywedodd 10% eu bod wedi prynu eu cig coch o siop fferm (AHDB/YouGov, defnyddwyr sy'n bwyta cig, Tachwedd 2025). Mae pobl sy'n prynu cig coch gan gigydd yn honni eu bod yn gwneud hynny oherwydd eu bod eisiau prynu cig Prydeinig (36%) a chefnogi busnesau lleol (59%) (AHDB/YouGov, Tachwedd 2025).
Mae cigyddion yn chwarae rhan bwysig i siopwyr, gan fod tri chwarter o'r rhai a ymatebodd i'r arolwg yn teimlo'n gyfforddus yn trafod â rhywun sy'n rheoli cownter y cigydd, ac mae mwy na thri chwarter yn hoffi'r ffaith y bydd y cigydd yn paratoi'r cynnyrch ar eu cyfer (AHDB/Linney, 2025).
Felly, nid yn unig rydych chi'n prynu ansawdd o gigydd neu siop fferm leol, ond hefyd rydych yn elwa o'u harbenigedd - sy'n aml yn cael ei drosglwyddo drwy genedlaethau – ac sy’n rhywbeth maent yn fwy na pharod i'w rannu, sy’n eich helpu i gael y gorau o'ch cig.
Rydym yn lwcus yng Nghymru bod yna ddigonedd o gigyddion a siopau fferm o ansawdd da ym mhob cwr o'r wlad. Yn ffodus i chi, mae gennym restr 'Clwb Cigyddion' ein hunain, lle gallwch fod yn dawel eich meddwl eich bod yn prynu Cig Eidion Cymru o ansawdd, o ffynhonnell leol, bob tro. Cymerwch olwg ar ein map rhyngweithiol a dewch o hyd i un sy'n agos atoch chi - rydym yn addo na fyddwch wedi eich siomi!
Darganfyddwch eich cigydd lleol.



