Mynd i'r cynnwys

Ysgwydd Cig Oen Cymru wedi’i rhostio’n araf

Cynhwysion 

  • Ysgwydd Cig Oen Cymru PGI, gyda’r asgwrn (tua 2kg)
  • 2 winwnsyn coch, wedi’u torri’n dalpiau trwchus
  • 1 bylb garlleg, wedi’i haneru
  • 1 gwydraid o win gwyn
  • 200ml stoc llysiau
  • Sbrigiau o rosmari
  • Sbrigiau o deim

Ar gyfer y marinâd:

  • 4 ewin garlleg, wedi’u malu
  • 1 lemon (croen a sudd ½ lemon – cadwch yr hanner arall i’w roi o gwmpas y cig oen yn y tun rhostio)
  • 1 leim (croen a sudd ½ leim – cadwch yr hanner arall i’w roi o gwmpas y cig oen yn y tun rhostio)
  • 3 sbrigyn o rosmari, wedi’u torri’n fras
  • 3 sbrigyn o deim, wedi’u torri’n fras
  • 1 llwy fwrdd mêl
  • Pupur a halen
  • 1 llwy fwrdd olew

300
Amser coginio
20
Amser paratoi 
5+
Yn gweini
  1. Cymysgwch y cynhwysion ar gyfer y marinâd gyda'i gilydd a'u brwsio dros yr ysgwydd. Gadewch iddo sefyll am awr (rhowch ef yn yr oergell os yw'n sefyll am fwy nag awr).
  2. Cynheswch y popty i 170˚C / 150˚C ffan / Nwy 3.
  3. Pan fydd yr ysgwydd cig oen ar dymheredd yr ystafell, paratowch y tun rhostio trwy roi'r winwns wedi'u sleisio yng ngwaelod y tun, rhowch yr ysgwydd ar eu pen, arllwyswch yr hylif i'r tun ac ychwanegwch y garlleg, yr haneri lemon a leim a'r perlysiau.
  4. Gorchuddiwch â ffoil a'i roi yn y popty am ryw 4-5 awr. Brasterwch yn achlysurol.
  5. Cynyddwch dymheredd y popty i 200˚C / 180˚C ffan / Nwy 6. Tynnwch y ffoil, brasteru a rhoi’r ysgwydd yn ôl yn y popty am ryw 20 munud nes bod ganddi groen creisionllyd hyfryd ac yn frown ysgafn drosti.
  6. Gadewch iddi orffwys am 30 munud cyn ei rhwygo ar wahân a’i gweini.

© Hybu Cig Cymru - Meat Promotion Wales 2025