- Cynheswch yr olew mewn padell ffrio ac ychwanegu’r briwgig eidion, a’i goginio am ychydig funudau nes ei fod wedi brownio.
- Ychwanegwch y winwnsyn, y garlleg a’r tsili, a’u ffrio am rai munudau nes bod y winwnsyn wedi meddalu.
- Ychwanegwch weddill y cynhwysion, cymysgwch yn dda a dewch â’r cyfan i’r berw. Gostyngwch y gwres a rhowch gaead ar y sosban.
- Coginiwch am tua 35 munud, nes ei fod yn eithaf trwchus.
- Tra bod y tsili yn coginio, paratowch y salsa trwy gymysgu’r holl gynhwysion gyda’i gilydd.
- Gweinwch y tsili gyda reis neu datws melys pob, salsa a llond llwy o hufen sur.
Tsili Cig Eidion Cymru gyda thaten felys bob a salsa tomato
- Amser paratoi 25 mun
- Amser coginio 45 mun
- Ar gyfer 4
Bydd angen
- 450g briwgig Cig Eidion Cymru PGI heb fawr o fraster
- ½ llwy fwrdd olew
- 1 winwnsyn, wedi’i blicio a’i dorri’n fras
- 1 tsili coch, wedi’i sleisio ar ôl tynnu’r hadau (dewisol)
- 2 ewin garlleg
- Tun 400g tomatos wedi’u torri
- Tun 400g ffa Ffrengig, wedi’u draenio a’u rinsio
- 1 pupur coch, wedi’i dorri’n giwbiau mân ar ôl tynnu’r hadau
- 1 pupur melyn, wedi’i dorri’n giwbiau mân ar ôl tynnu’r hadau
- 150ml passata
- 150ml stoc cig eidion
- 2 lwy de powdr tsili mwyn (neu boeth)
Ar gyfer y salsa tomato:
- 2 tomato ffres, wedi’u torri’n giwbiau mân
- 1 pupur gwyrdd, wedi’i dorri’n giwbiau mân ar ôl tynnu’r hadau
- 1 shibwnsyn, wedi’i sleisio
- Llond llaw coriander, wedi’i dorri
- Hufen sur â llai o fraster, i weini