- Cynheswch yr olewau mewn padell ffrio neu wok anlynol, ychwanegwch y stribedi o gig oen a’r garlleg. Coginiwch am 4-5 munud nes mae’r cig yn frown drosto ac wedi coginio drwyddo.
- Ychwanegwch y saws tsili melys a choginiwch am 1-2 funud.
- Ychwanegwch y croen a’r sudd leim, y pys sugar snap a/neu’r mange tout a chymysgwch.
- Yn olaf, ychwanegwch y nwdls a’r sibols, trowch y cyfan a gweinwch gyda choriander wedi’i ysgeintio am ei ben.
Tsili melys Cig Oen Cymru
- Amser paratoi 15 mun
- Amser coginio 10 mun
- Ar gyfer 2
Bydd angen
- 450g o stêc Cig Oen Cymru PGI, wedi’i dorri yn stribedi
- 1 llwy fwrdd o olew
- 1 llwy fwrdd o olew sesame
- 1 ewin garlleg, wedi’i falu
- 3 llwy fwrdd saws tsili melys
- 1 leim, sudd a’r croen
- 100g pys sugar snap neu mangetout, neu’r ddau, wedi’u sleisio
- 225g nwdls wedi’u coginio
- 4 shibwns, wedi’i torri’n fân
- 2 llwy fwrdd coriander ffres, wedi’i dorri
Gwybodaeth am faeth
- Ynni: 1142 KJ
- Calorïau: 273 kcals
- Braster: 15 g
- Sy’n dirlenwi: 4.5 g
- Halen: 0.2 g
- Haearn: 2.2 mg