Mynd i'r cynnwys

Tacos Cig Oen Cymru gyda za’atar a baba ghanoush

Cynhwysion 

  • 4 stêc coes Cig Oen Cymru PGI, 150g yr un
  • 45g sesnin za’atar
  • 1 llwy fwrdd olew hadau rêp

Ar gyfer y baba ghanoush:

  • 2 blanhigyn wy, wedi eu haneru
  • 1 llwy fwrdd olew hadau rêp
  • 1 lemon, sudd
  • 2 ewin garlleg, wedi eu plicio
  • Clwstwr bychan o ddail mintys ffres, wedi ei dorri
  • Pupur a halen

Ar gyfer y winwns picl pinc:

  • 25g siwgr gwyn
  • 200ml dŵr
  • 100ml finegr gwin gwyn
  • 2 winwnsyn coch, wedi eu plicio a’u sleisio’n denau

I weini:

  • 8 tortilla bach
  • 40g hadau pomgranad ffres
  • Clwstwr bychan o ddail mintys ffres
  • 50g iogwrt braster isel
  • 1 leim, sudd

30
Amser coginio
60
Amser paratoi 
4
Yn gweini
  1. Cynheswch y ffwrn i 180°C / 160°C ffan / Nwy 4.
  2. Mewn powlen, cymysgwch y stêcs cig oen a'r sesnin za’atar gyda’i gilydd, gan sicrhau bod y cig oen wedi'i orchuddio'n gytbwys. Gorchuddiwch a'i adael i fwydo am awr.
  3. Cynheswch yr olew mewn padell ffrio wrthlud dros wres uchel. Ychwanegwch y stêcs a'u ffrio am 3 munud ar bob ochr. Trosglwyddwch i hambwrdd pobi gwrthlud a gorffen eu coginio yn y ffwrn am 3-4 munud arall. Gadewch i'r cig oen orffwys am ychydig funudau.
  4. Ar gyfer y baba ghanoush, rhowch bupur a halen ar yr haneri planhigyn wy a diferu’r olew drostyn nhw. Rhowch y ddau hanner yn ôl gyda'i gilydd, eu lapio mewn ffoil a'u pobi yn y ffwrn am 30 munud.
  5. Tynnwch y planhigyn wy o'r ffoil a sgwpio’r cnawd allan. Rhowch y cnawd mewn padell ffrio boeth dros wres canolig/uchel a choginio am 5 munud i gael gwared ar y lleithder di-angen. Trosglwyddwch i flendiwr neu brosesydd bwyd a chymysgu gyda’r lemon, y garlleg a'r perlysiau. Ychwanegwch bupur a halen at eich dant.
  6. Ar gyfer y winwns picl, rhowch y siwgr, y dŵr a'r finegr mewn sosban fach a dewch â'r cyfan i'r berw, ychwanegwch y winwns coch wedi'u sleisio a'u coginio am funud. Tynnwch oddi ar y gwres a gadewch iddyn nhw oeri yn yr hylif, yna eu draenio a'u rhoi o'r neilltu.
  7. I weini, cynheswch y tortillas bach yn ôl cyfarwyddiadau'r pecyn. Rhowch y baba ghanoush ar ben pob tortilla. Sleisiwch y cig, gan dorri’n erbyn y graen a'i roi ar ben y cymysgedd planhigyn wy. Rhowch y winwns picl, yr hadau pomegranad a'r dail mintys drostyn nhw. Diferwch ychydig o iogwrt a sudd leim drostyn nhw a'u gweini ar unwaith.
Cyngor: Os na allwch chi ddod o hyd i sesnin za’atar gwnewch un eich hun gan ddefnyddio llond dwy lwy de yr un o gwmin, hadau sesame, sumac ac oregano sych.

© Hybu Cig Cymru - Meat Promotion Wales 2025