
Ingredients
- 100g sbarion brisged Cig Eidion Cymru PGI wedi ei rwygo
- 1 bag o sglodion â chroen, wedi rhewi
- ½ llwy de pupur cayenne neu sesnin sglodion
- 4 shibwnsyn, wedi eu torri’n fân
- 150g caws wedi ei ratio (Cheddar neu mozzarella neu gymysgedd o’r ddau)
- Saws barbeciw neu saws tebyg
- Cennin syfi, wedi eu torri’n fân
20
Cooking Time
10
Prep Time
4
Serves
- Taenwch y sglodion allan ar hambwrdd pobi mawr, ysgeintiwch y sbeis neu’r sesnin drostyn nhw a’u coginio yn ôl cyfarwyddiadau’r pecyn tan eu bod yn grimp ac yn euraidd.
- Tynnwch y sglodion allan o’r ffwrn a rhoi’r brisged, y caws wedi ei ratio a hanner y shibwns drostyn nhw. Rhowch nhw’n ôl yn y ffwrn am ryw 5 munud tan fod y caws wedi toddi a’r cig eidion yn boeth.
- Rhowch weddill y shibwns ar ben y cyfan, cyn diferu’r saws ac ysgeintio’r cennin syfi drosto.
- Gweinwch gyda salad gwyrdd ffres.