Cynhwysion
- 1kg o stêc stiwio Cig Eidion Cymru
- 1 nionyn mawr – wedi’i dorri
- 2 foron – wedi’u torri
- 2 goesyn seleri – wedi’u torri
- 2 ewin garlleg – wedi’u torri
- 150ml o win coch (2/3 cwpan)
- Tun 400g o domatos wedi’u torri
- 1 pot stoc cig eidion
- 2 ddeilen llawryf
- 2 gangen o deim
- 1 llwy de o oregano sych
- Halen a phupur
- I weini
- 600g o basta wedi’i goginio a chaws Parmesan wedi’i gratio.
420
Amser coginio
30
Amser paratoi
6
Yn gweini
- Browniwch y darnau Cig Eidion Cymru a'u rhoi o'r neilltu.
- Ffriwch y moron, y seleri, y garlleg a'r nionyn ar wres isel am tua 5 munud.
- Rhowch yr holl gynhwysion yn eich popty araf a'u coginio ar wres isel am 6-7 awr. Pan fydd y cig yn barod, rhwygwch ef yn ddarnau mân a'i droi i mewn i'r saws. Os oes angen tewychu'r saws, arllwyswch y cyfan i sosban a'i ferwi'n ysgafn nes ei fod yn lleihau, neu ei goginio ar wres uchel yn y popty araf heb y caead am 30 munud arall.
- Cymysgwch â'r pasta wedi'i goginio a'i weini gyda digonedd o gaws Parmesan wedi'i gratio.