Mynd i'r cynnwys

Pitta Cig Oen Cymru a tzatziki

Cynhwysion 

  • 600g stêcs coes Cig Oen Cymru PGI heb asgwrn, wedi ei dorri’n giwbiau.
  • 2 llwy fwrdd saws soia golau
  • Sudd 1 oren canolig
  • Sudd 1 leim
  • ½ llwy de haenau tsili coch
  • ½ llwy de cwmin mâl
  • ½ llwy de powdr garlleg
  • ½ llwy de sinsir mâl
  • ½ llwy de pupur du mâl

Ar gyfer y tzatziki:

  • 120g iogwrt Groegaidd â llai o fraster
  • 1/3 ciwcymbr, wedi ei haneru, ei sleisio, a thynnu’r hadau allan
  • 1 llwy de mintys wedi sychu

I weini:

  • 4 bara pitta
  • 1 letysen ‘little gem’ wedi ei thorri’n fân
  • 1 winwnsyn coch, wedi ei blicio a’i sleisio’n denau
  • 1 lemon, wedi ei dorri’n hanner

15
Amser coginio
10
Amser paratoi 
4
Yn gweini
  1. Rhoi’r cig oen mewn powlen fawr ac ychwanegu’r saws soia, sudd oren a leim.
  2. Rhoi’r sbeisys drosto a chymysgu’n dda. Ei orchuddio a’i fwydo am 10 munud, neu’n hirach yn yr oergell, os yw amser yn caniatáu.
  3. Gosod y ciwbiau o gig oen ar 4 sgiwer metal neu bren (ar ôl eu socian mewn dŵr am 20 munud).
  4. Coginio ar gril canolig neu ar farbeciw, a’u troi o dro i dro, am 15 munud, neu tan fo suddion y cig yn glir,
  5. Yn y cyfamser, paratoi’r tzatziki – cymysgu’r iogwrt, ciwcymbr a mintys mewn powlen ganolig.
  6. Twymo’r pittas, eu hanneru a rhannu’r letysen a’r winwnsyn coch rhyngddyn nhw. Gosod y cig oen ar y top, gwasgu’r sudd lemon drostyn nhw a’u gweini gyda’r tzatziki.

© Hybu Cig Cymru - Meat Promotion Wales 2025