
Ingredients
- 4 siancen Cig Oen Cymru PGI, wedi’u sleisio mewn arddull ossobuco
- 100g moron, wedi’u torri’n giwbiau mân
- 100g seleri, wedi’u torri’n giwbiau mân
- 100g winwns, wedi’u torri’n giwbiau mân
- 2 sbrigyn o rosmari
- 3 sbrigyn o deim
- 1 ddeilen llawryf
- 50g past tomato
- 1L gwin coch
- 500ml stoc cyw iâr
- Pupur a halen
Ar gyfer y tatws stwnsh
- 400g tatws
- 200ml llaeth, wedi’i dwymo’n ysgafn
- 70g menyn
- Halen
- Nytmeg
I orffen
- 30g persli, wedi’i dorri
60
Cooking Time
10
Prep Time
4
Serves
- Sesnwch y cig oen gyda halen a phupur a’i serio mewn padell gydag olew olewydd ar wres canolig / uchel.
- Mewn sosban fawr, chwyswch y llysiau mân gydag ychydig o olew olewydd, ychwanegwch y cig oen a'i ffrio am gwpl o funudau. Arllwyswch y gwin coch i mewn a gadewch iddo dewychu nes ei fod hanner y trwch.
- Ychwanegwch y past tomato, y stoc cyw iâr a'r perlysiau a gadewch iddo fudferwi am ryw awr, wedi'i orchuddio â chaead.
- Ar ôl tua 30-40 munud, dechreuwch ferwi'r tatws a'u coginio nes eu bod yn feddal. Stwnsiwch nhw, gan ychwanegu llaeth poeth a menyn yn raddol a'u cymysgu'n egnïol nes bod y stwnsh yn hufennog ac yn ysgafn. Sesnwch gyda halen a nytmeg wedi'i falu'n ffres.
- Edrychwch ar y cig oen a gwnewch yn siŵr nad yw'r saws yn rhy rhedegog nac yn rhy drwchus.
- Rhowch y tatws stwnsh ar ochr dysgl weini, ychwanegwch yr ossobuco a'i saws ei hun a'i orffen gyda phersli wedi'i dorri'n ffres.