Yn llawn blas ond hefyd llysiau cudd ar gyfer y rheiny sy’n ffyslyd am eu bwyd!
- Cymysgwch y briwgig a’r llysiau mewn powlen ac ychwanegu’r perlysiau a’r pupur a halen.
- Ychwanegwch y sos coch a hanner yr wy gan gymysgu’n dda. Ychwanegwch ragor o’r wy os bydd angen – bydd angen cymysgedd meddal ond cadarn er mwyn sicrhau bod y koftas yn dal eu siâp (os bydd yn rhy ludiog, ychwanegwch rywfaint o’r briwsion bara).
- Cymerwch lond llaw o’r gymysgedd a’r siâp o gwmpas y ffyn llysiau, oerwch am 15 munud neu hirach.
- Gellir coginio’r rhain ar blât solet y barbeciw, y popty neu’r gridyll, a hynny am 12-15 munud, yn dibynnu ar eu trwch.
- Gweinwch gyda sawsiau trochi – sos coch tomato a dip iogwrt tangylaidd a wnaed gydag iogwrt naturiol, mintys wedi’i dorri’n fân a dash o saws tsili melys.