Diolch i Supergolden Bakes am y rysait
- Dechreuwch trwy sesno’ch cig oen gydag halen a phupur. Cynheswch yr olew mewn padell a brownio’r cig oen, mewn sypiau, dros wres uchel. Rhowch o’r neilltu.
- Ychwanegwch y menyn i’r badell boeth a ffriwch y winwns a’r cennin yn ysgafn nes eu bod wedi meddalu ond heb eu lliwio.
- Trowch y blawd i mewn ac ychydig o’r stoc i wneud grefi, yna ychwanegwch saws Worcestershire, past tomato, garlleg a saws llugaeron (os ydych chi’n ei ddefnyddio).
- Ychwanegwch y stoc, y cig oen a chynnwys y badell i’r popty araf a throi’r pannas, y moron a’r dail llawryf i mewn.
- Rhowch y tatws wedi’u sleisio mewn haenau dros y top, gan eu gorgyffwrdd ychydig. Sesnwch gyda’r halen, pupur a’r teim. Gorchuddiwch a choginiwch ar y gosodiad UCHEL am 7-8 awr.
- I orffen, brwsiwch y tatws gydag ychydig o fenyn wedi’i doddi a’u brownio o dan gril poeth yn y popty am 5-7 munud nes eu bod ychydig yn grensiog ar yr ymylon. Ysgeintiwch y rhosmari dros y top, gweinwch a mwynhewch!
Awgrymiadau: Gallwch chi baratoi’r rysáit ymlaen llaw a’i ychwanegu i’ch popty araf heb yr haen olaf o datws. Cadwch hwn yn yr oergell nes eich bod yn barod i goginio’r hotpot, gan ychwanegu’r haen datws ar ei ben cyn troi’r popty araf ymlaen.