- Cynheswch y popty i 200˚C / 180˚C Ffan / Nwy 6.
- Mewn powlen fawr, chwisgiwch holl gynhwysion y marinâd gyda’i gilydd ac ychwanegwch y golwython.
- Cymysgwch i sicrhau bod y golwython wedi’u gorchuddio yn y marinâd. Gadewch am 30 munud, os yn bosibl.
- Rhowch y golwython a’r llysiau mewn hambwrdd pobi, ychwanegwch y garlleg a’r teim a’u brwsio gydag ychydig o olew neu’r marinâd.
- Rhowch nhw yn y popty a’u coginio am tua 20 – 25 munud nes bod y golwython wedi coginio at eich dant (os ydych yn eu coginio’n hirach, tynnwch y brocoli a’r tomatos allan).
- Awgrym ar gyfer gweini: tatws wedi’u berwi neu reis grawn cyflawn.
Pryd popty golwython Cig Oen Cymru wedi’u carameleiddio a llysiau rhost
- Amser paratoi 20 mun
- Amser coginio 25 mun
- Ar gyfer 4
Bydd angen
Ar gyfer y pryd popty:
- 4-6 golwyth lwyn Cig Oen Cymru PGI (neu ffolennau unigol)
- 2 bwnsiad o domatos ar y winwydden
- 1 bwnsiad o frocoli ifanc
- 3 winwnsyn coch, wedi’u plicio a’u torri’n dalpiau
- Llond llaw o radisys, wedi’u haneru
- 1 bylb garlleg, wedi’u haneru
- Sprigau o deim ffres
Ar gyfer y marinâd:
- 3 llwy fwrdd saws Worcestershire
- 2 lwy fwrdd saws soi â llai o halen
- 2 lwy fwrdd finegr balsamig
- 2 lwy fwrdd saws coch
- 1 llwy fwrdd siwgr brown tywyll
- ½ llwy de haenau tsili
- 1 llwy de perlysiau ffres sych
- ¼ llwy de pupur du
- 2 lwy fwrdd olew olewydd