
Cynhwysion
- 400g ysgwydd neu gwddf Cig Oen Cymru PGI heb asgwrn, wedi ei drimio a’i dorri’n giwbiau
- 1 llwy fwrdd olew hadau rêp
- 2 winwnsyn, wedi eu plicio a’u sleisio’n denau
- 4 ewin garlleg, wedi eu plicio a’u torri’n fân
- 70g gwreiddyn sinsir ffres, wedi ei blicio a’i ratio’n fân
- 1 llwy de tyrmerig mâl
- 2 lwy de cwmin mâl
- 2 lwy de coriander mâl
- 1 llwy de paprica mâl
- 1 ffon sinamon gyfan
- 3 tsili coch, heb yr hadau ac wedi eu torri’n fân
- 30g purée tomato
- 2 x 400g tun tomatos wedi eu torri
- 700ml dŵr
- 200ml llaeth cnau coco braster is
- 150g ffacbys coch sych
- 50g ffacbys chana dal neu bys hollt neu ffacbys coch
- Llond llaw fawr o goriander ffres
- 2 leim, sudd
Ar gyfer y kefir mintys:
- 200ml kefir neu iogwrt braster isel
- Llond llaw fach o ddail mintys ffres, wedi eu torri’n fras
- 2 fara naan bach plaen, i weini
120
Amser coginio
30
Amser paratoi
4
Yn gweini
- Ar gyfer y dhansak cig oen, cynheswch yr olew mewn padell ffrio fawr wrthlud a ffrio'r winwns, y garlleg a'r sinsir nes eu bod yn feddal ac yn lliw golau.
- Ychwanegwch y sbeisys a'r tsili. Coginiwch am funud.
- Ychwanegwch y cig oen, gan ei droi i'w orchuddio'n dda â'r sbeisys. Coginiwch am 4-5 munud nes ei fod yn frown. Ychwanegwch y purée tomato a'i goginio am funud arall.
- Ychwanegwch y tomatos tun, 200ml o ddŵr a'r llaeth cnau coco. Gostyngwch y gwres a mudferwi’n ysgafn am 1 awr a 15 munud.
- Ychwanegwch y ffacbys a'r dŵr sy'n weddill. Coginiwch am 30 munud arall. Wrth i'r ffacbys goginio, byddan nhw’n amsugno'r hylif. Os yw'r gymysgedd yn edrych yn rhy sych ychwanegwch ychydig yn rhagor o ddŵr. Mae'r cyri'n barod pan fo'r ffacbys yn feddal a'r cig oen yn dyner ac yn feddal.
- Tynnwch y ffon sinamon gyfan allan ac ychwanegu’r coriander a'r leim.
- Ar gyfer y kefir mintys, cymysgwch y kefir a’r mintys, neu iogwrt braster isel, mewn blendiwr neu brosesydd bwyd.
- Rhannwch y cyri rhwng y powlenni gweini. Rhowch y naan a'r kefir yng nghanol y bwrdd i'w rhannu a'u gweini.