Dhansak Cig Oen Cymru

  • Amser paratoi 30 mun
  • Amser coginio 2 awr
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 400g ysgwydd neu gwddf Cig Oen Cymru PGI heb asgwrn, wedi ei drimio a’i dorri’n giwbiau
  • 1 llwy fwrdd olew hadau rêp
  • 2 winwnsyn, wedi eu plicio a’u sleisio’n denau
  • 4 ewin garlleg, wedi eu plicio a’u torri’n fân
  • 70g gwreiddyn sinsir ffres, wedi ei blicio a’i ratio’n fân
  • 1 llwy de tyrmerig mâl
  • 2 lwy de cwmin mâl
  • 2 lwy de coriander mâl
  • 1 llwy de paprica mâl
  • 1 ffon sinamon gyfan
  • 3 tsili coch, heb yr hadau ac wedi eu torri’n fân
  • 30g purée tomato
  • 2 x 400g tun tomatos wedi eu torri
  • 700ml dŵr
  • 200ml llaeth cnau coco braster is
  • 150g ffacbys coch sych
  • 50g ffacbys chana dal neu bys hollt neu ffacbys coch
  • Llond llaw fawr o goriander ffres
  • 2 leim, sudd

Ar gyfer y kefir mintys:

  • 200ml kefir neu iogwrt braster isel
  • Llond llaw fach o ddail mintys ffres, wedi eu torri’n fras
  • 2 fara naan bach plaen, i weini

Gwybodaeth am faeth

  • Ynni: 2606 KJ
  • Calorïau: 621 kcals
  • Braster: 21 g
  • Sy’n dirlenwi: 8 g
  • Halen: 0.59 g
  • Haearn: 2.1 mg
  • Sinc: 6.0 mg
  • Protein: 42 g
  • Ffeibr: 12 g
  • Carbohydradau: 59 g
  • Sy’n siwgro: 15 g

Dull

  1. Ar gyfer y dhansak cig oen, cynheswch yr olew mewn padell ffrio fawr wrthlud a ffrio’r winwns, y garlleg a’r sinsir nes eu bod yn feddal ac yn lliw golau.
  2. Ychwanegwch y sbeisys a’r tsili. Coginiwch am funud.
  3. Ychwanegwch y cig oen, gan ei droi i’w orchuddio’n dda â’r sbeisys. Coginiwch am 4-5 munud nes ei fod yn frown. Ychwanegwch y purée tomato a’i goginio am funud arall.
  4. Ychwanegwch y tomatos tun, 200ml o ddŵr a’r llaeth cnau coco. Gostyngwch y gwres a mudferwi’n ysgafn am 1 awr a 15 munud.
  5. Ychwanegwch y ffacbys a’r dŵr sy’n weddill. Coginiwch am 30 munud arall. Wrth i’r ffacbys goginio, byddan nhw’n amsugno’r hylif. Os yw’r gymysgedd yn edrych yn rhy sych ychwanegwch ychydig yn rhagor o ddŵr. Mae’r cyri’n barod pan fo’r ffacbys yn feddal a’r cig oen yn dyner ac yn feddal.
  6. Tynnwch y ffon sinamon gyfan allan ac ychwanegu’r coriander a’r leim.
  7. Ar gyfer y kefir mintys, cymysgwch y kefir a’r mintys, neu iogwrt braster isel, mewn blendiwr neu brosesydd bwyd.
  8. Rhannwch y cyri rhwng y powlenni gweini. Rhowch y naan a’r kefir yng nghanol y bwrdd i’w rhannu a’u gweini.

Cyngor: Am ragor o sbeis cadwch yr hadau tsili yn y tsilis ffres.

Share This