- Gwnewch y menyn â blas. Rhowch y menyn meddal mewn powlen a’i guro â llwy bren nes ei fod yn feddal ac yn hufennog, yna ychwanegwch y sesnin, y leim a’r teim.
- Rhowch y menyn ar ddarn o bapur memrwn neu cling ffilm a’i lapio o amgylch y menyn i wneud siâp selsig. Trowch y pennau i’w selio a’i roi yn yr oergell i galedu. (Gall y menyn gael ei rewi hefyd).
- Arllwyswch ychydig o olew ar y cytledi a, gan ddefnyddio brwsh neu ddwylo, rhowch olew ar ddwy ochr y cytledi.
- Cynheswch radell neu badell ffrio â gwaelod trwm a phan yn boeth iawn, ychwanegwch y cytledi. Ffriwch am 2-3 munud bob ochr i gael cytledi wedi’u coginio’n ganolig. Tynnwch nhw allan o’r badell a’u rhoi ar y plât, sleisiwch y menyn â blas yn gylchoedd ½ cm a rhowch un ar bob cytled. Gadewch iddyn nhw orffwys am ychydig funudau cyn gweini, ac i’r menyn doddi ar y cytled.
- Gweinwch gyda thatws newydd wedi’u malu a llysiau gwyrdd neu salad gwyrdd.
Cytledi Cig Oen Cymru o’r gradell gyda menyn teim a leim
- Amser paratoi 15 mun
- Amser coginio 10 mun
- Ar gyfer 4
Bydd angen
- 6-8 cytled neu olwyth Cig Oen Cymru PGI (gallwch hefyd eu gwneud gyda stêcs coes)
- Olew
- Pupur du
Ar gyfer y menyn teim a leim:
- 125g menyn heb halen
- Sesnin
- 2 leim, croen wedi’i gratio
- 2 lwy fwrdd dail teim, wedi’u torri
Menyn amgen â blas:
Tsili, basil a paprica mwg
- 1 tsili coch ffres, wedi’i dorri
- ½ llwy de paprica mwg
- Llond llaw o ddail basil, wedi’u torri
Lemon, garlleg a rhosmari
- 1 lemon, dim ond y croen
- 2 ewin garlleg, wedi’u malu
- 1 llwy fwrdd rhosmari, wedi’i dorri